Mae hi’n “hwyr glas i Gymru gael Ysgol Filfeddygol ers cenedlaethau”, yn ôl cyn-filfeddyg sydd wedi bod yn siarad â golwg360 wrth i Ysgol Gwyddor Filfeddygol gyntaf Cymru agor yn Aberystwyth heddiw (dydd Llun, Medi 20).
Yn ôl Robat Idris, cyn-Lywydd Cangen Cymru o Gymdeithas Milfeddygon Prydain, mae’r datblygiad a’r ddarpariaeth Gymraeg i’w croesawu, ac mae’n gyfle i fedru hyfforddi milfeddygon sy’n gyfarwydd â’r diwydiant amaeth yng Nghymru.
Gall fod yn gyfle hefyd i gydweithio ers lles yr amgylchedd yn ogystal ag anifeiliaid, meddai.
Er bod prinder milfeddygon sydd wedi’u hyfforddi yn y Deyrnas Unedig yn isel yn draddodiadol, mae amryw ffactorau wedi gwaethygu’r sefyllfa megis prinder milfeddygon o Ewrop, Covid, newid yn natur practis milfeddygol, a phwysau gwaith.
“Mae hi’n hwyr glas i Gymru gael Ysgol Filfeddygol ers cenedlaethau, rydyn ni wedi bod heb un tra mae’r Alban efo dwy, mae yna un yn Iwerddon, a sawl un yn Lloegr,” meddai Robat Idris, a fu’n filfeddyg ar Ynys Môn, wrth golwg360.
“Ar hyn o bryd, mae o’n gangen o’r Coleg Milfeddygol yn Llundain, ac mae hynny mae’n debyg am resymau nad oes posib cael popeth sydd angen i’w ddysgu yn Aberystwyth ar hyn o bryd.
“Ond mae’n ddatblygiad i’w groesawu, mae o’n golygu bod gwell gobaith i’r sector amaethyddol, yn benodol, fedru cael milfeddygon sydd wedi astudio yng Nghymru, ac yn gynefin ar y diwydiant amaeth a diwydiannau’r tir yma’n gyffredinol.
“Fel y gwyddom ni, mae gan Aberystwyth draddodiad cryf o ddysgu amaethyddiaeth ac yn y blaen.”
‘Caffaeliad mawr’
Mae’n beth i’w groesawu bod elfennau o’r cwrs i’w ddysgu drwy’r Gymraeg, meddai Robat Idris, oedd wedi hyfforddi i fod yn filfeddyg yn Lerpwl.
“Mae datblygu ieithwedd dechnegol yn y Gymraeg sy’n cael ei arfer yn ddyddiol ac yn gyfarwydd i filfeddygon a ffarmwrs yn beth da iawn fyswn i’n ei ddweud,” meddai.
“Byddwn i’n gobeithio bod y pwyslais ar y Gymraeg yn parhau yn naturiol, bod o ddim yn cael ei wneud fel rhyw fath o beth sydd yno er mwyn tynnu lluniau weithiau.
“Ond yn sicr, mae’r holl syniad bod gennym ni o’r diwedd sefydliad o’r fath yma yn gobeithio’n mynd i fod yn gaffaeliad mawr.
“Dw i’n meddwl bod o’n hynod o bwysig bod yr ysgol filfeddygol yma a’r diwydiant amaeth yn cydweithio’n agos er lles anifeiliaid ac er lles yr amgylchedd hefyd.
“Mae’r ffordd mae anifeiliaid yn cael eu ffarmio, gwrthfiotigau, a bob math o ffyrdd eraill o’u rheoli nhw, yn cael effaith ar yr amgylchedd.
“Felly dw i’n meddwl efallai bod yna gyfle yma i bwysleisio rhai o’r agweddau hynny, yn hytrach na mynd ar ôl y pwyslais i gynhyrchu mwy a mwy a mwy drwy’r amser.
“Yn sicr, datblygiad i’w groesawu.”
Prinder milfeddygon
Mae’n debyg bod prinder milfeddygon ymhob sector, meddai Robat Idris, ond mae prinder milfeddygon anifeiliaid anwes yn arbennig.
Yn ôl Robat Idris, mae amryw o resymau wedi dod ynghyd i achosi’r prinder presennol mewn milfeddygon, er y gallai fod yn “rhywbeth i’w ryfeddu ato, ar un ystyr, achos mae yna ambell i ysgol filfeddygol wedi agor ers cryn amser, ac mae’r niferoedd sy’n bodoli’n barod wedi codi”, meddai.
“Yn anffodus, be rydyn ni’n ei weld ydi bod milfeddygon yn disgyn allan o’r proffesiwn dan bwysau gwaith, mae Covid sicr wedi cael effaith andwyol ar bobol, mae straen gwaith a phobol yn llosgi allan yn golygu eu bod nhw wedi gadael.
“Mae hefyd y ffactor o filfeddygon o Ewrop, sydd un ai wedi mynd adra neu ddim yn dod mewn yn y lle cyntaf erbyn hyn, wedi cael effaith ar y gweithlu.
“Mater o drafod efallai ydi pam bod yna gymaint o ddibyniaeth arnyn nhw yn y lle cyntaf, ond y gwir ydi bod hynny yn cael effaith fawr ar y farchnad sy’n bodoli.
“Mae natur perchnogaeth practisys milfeddygol wedi newid, be oedd yn arfer bod yn bractis bach cymharol leol, erbyn hyn mae yna gorfforaethau wedi mentro i’r maes fel sydd yna yn y byd deintyddol a byd optegaeth.
“Mae’r rheiny’n fwy a mwy corfforaethol, mae’n siŵr bod yna rai manteision i hynny ond mae’n siŵr bod yna anfanteision hefyd.”
Disgwyliadau
Ychwanega Robat Idris ei bod hi’n deg dweud nad yw disgwyliadau pobol ifanc sy’n mynd mewn i’r proffesiwn yn cyd-fynd â realaeth yr hyn ydi bod yn y practis go iawn, efallai.
“Yn y pen draw be ydach chi’n ei wneud, rydych chi’n cael rhai o’r pobol fwyaf galluog yn academaidd ac wedyn maen nhw’n mynd i feysydd lle rydych chi’n gorfod delio â phethau bob dydd, sydd ddim bob tro’n achosion diddorol fedrach chi fynd iddyn nhw mewn dyfnder ond yn bethau rydych chi’n delio efo nhw’n gymharol sydyn,” meddai.
“Yn naturiol, mae rhyw fath o siomedigaeth yn dod mewn. Mae pobol yn penderfynu: ‘Dydi o ddim be roeddwn i’n feddwl, af i i wneud rhywbeth arall’.
“Mae’n bosib hefyd bod amodau gwaith a’r cyflog ddim bob tro’n adlewyrchu’r ffaith bod pobol wedi bod yn y coleg am nifer o flynyddoedd ac yn bosib iawn mewn dyled ar ôl dod allan.
“Amryw o resymau wedi dod i’r berw, a dod at ei gilydd. Fydd hi’n ddiddorol gweld beth ddaw.”