Mae teyrngedau wedi’u rhoi i ddyn fu farw mewn gwrthdrawiad ar ffordd B4569 Caersws i Drefeglwys.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad nos Iau, Medi 16 ac fe fu farw Thomas ‘Winnie’ Evans, oedd yn 34 oed ac yn dod o Gaersws.

“Mae’r teulu’n torri eu calonnau o golli Thomas ‘Winnie’ Evans,” meddai’r teulu mewn datganiad.

“Yn dad ymroddedig i’w fechgyn, yn bartner, yn fab, yn frawd ac yn wyr.

“Roedd yn cael ei garu gan ei deulu oll, ei ffrindiau a’r gymuned gyfan.

“Dyn poblogaidd iawn oedd yn gweithio ac yn chwarae’n galed.

“Yn ffrind ffyddlon i gynifer.

“Roedd gwên ar ei wyneb bob amser.

“Roedd yn barod i helpu pryd bynnag fyddai angen.

“Mae’r negeseuon sydd wedi’u derbyn hyd yn hyn yn dyst i’r graddau roedd cynifer yn ei hoffi a’i garu.

“Bydd colled ar ei ôl wastad.”