Mae ffon gerdded Michael Collins a ffeiliau’r heddlu am yr ymgyrchydd tros annibyniaeth yn Iwerddon ymhlith eitemau sy’n mynd ar werth mewn ocsiwn.
Bydd yr eitemau hyn a rhai eraill yn cael eu gwerthu yn Belffast yr wythnos nesaf, a’r gred yw y gallai’r naill eitem a’r llall gael eu gwerthu am hyd at £10,000 yr un.
Ymhlith yr eitemau eraill yn yr ocsiwn heddlu a lluoedd arfog mae medal gwasanaeth yn ystod Gwrthryfel y Pasg yn 1916 yn Nulyn, giât o un o flociau carchar y Trafferthion, gweithiau celf gan Michael Stone a ffon hurling wedi’i llofnodi gan garcharorion gweriniaethol gan gynnwys Joe Cahill, cyn-arweinydd yr IRA.
Y tu hwnt i Iwerddon, mae eitemau o eiddo’r Natsïaid blaenllaw Heinrich Himmler a Joseph Goebbels roedden nhw’n eu cludo ar eu trên personol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Mae eitemau eraill yn dyddio o’r ail ganrif ar bymtheg a’r ddeunawfed ganrif hefyd ar werth ddydd Mawrth (Medi 28) a dydd Mercher (Medi 29) yr wythnos nesaf.
Dogfennau Michael Collins
“O fewn y dogfennau hynny mae gyda ni blethora o wybodaeth a gafodd ei derbyn,” meddai Karl Bennett, rheolwr gyfarwyddwr Bloomfield Auctions, am y dogfennau’n ymwneud â Michael Collins.
“Roedd hi’n anhygoel pa mor dda oedd cudd-wybodaeth yn ôl yn 1921.
“O fewn y dogfennau hynny, mae gyda ni symudiadau Michael Collins, mae gyda ni Eamon de Valera [Arlywydd Iwerddon ar y pryd] yn derbyn gwahoddiad y prif weinidog [David Lloyd George] i gyfarfod, a de Valera yn cyhoeddi neges i’w ddynion i ymatal rhag gweithgarwch [yn ystod trafodaethau heddwch].
“Mae gyda ni sôn am Michael Collins yn mynd i’r gogledd i gorddi’r dyfroedd.
“Mae gyda ni sôn o fewn y dogfennau pe bai Michael Collins yn cael ei weld mewn ardal i’w arestio os gwelwch yn dda, yn ogystal â llu o wybodaeth arall.
“Mae’n ddarn pwysig iawn o hanes.”
Mae’n darogan y gallai dogfennau’r heddlu gael eu gwerthu am hyd at £6,000 os nad mwy, a felly hefyd y ffon gerdded, a allai gael ei gwerthu am hyd at £10,000 meddai.