Mae Cyngor Abertawe wedi gofyn am arian i ddatblygu cynllun busnes ar gyfer morlyn llanw â thai sy’n arnofio a fferm solar.

Mae’r Cyngor wedi gwneud cais i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer yr arian, a’i fwriad yw gweithredu’r cynllun ar gyfer Ynys Ynni’r Ddraig, yn ôl y Cynghorydd Andrea Lewis, sydd â chyfrifoldeb am newid hinsawdd gyda’r Cyngor Sir.

Mae hi wedi dweud wrth bwyllgor rhaglen graffu’r Cyngor fod yr awdurdod hefyd yn cynnal trafodaethau â Llywodraeth Cymru am y cynllun ynni ac isadeiledd ar gyfer Bae Abertawe.

“Rydyn ni’n dal yn ymroi’n fawr iawn i gyflwyno Ynys Ynni’r Ddraig,” meddai, gan ychwanegu ei bod hi’n disgwyl clywed yn fuan a fu’r cais am arian i ddatblygu’r cynllun busnes yn llwyddiannus, ac a fyddai’r Cyngor yn barod i geisio partner sector preifat ar gyfer y prosiect maes o law.

‘Cyffrous dros ben’

Yn ôl y Cynghorydd Andrea Lewis, mae’r cynllun yn un “cyffrous dros ben” a phe bai cynlluniau tebyg yn cael eu datblygu mewn llefydd eraill, fe allai helpu i sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn dod yn hunangynhaliol o ran ynni.

Fis Tachwedd y llynedd, dywedodd y cwmni DST Innovations ym Mhen-y-bont ar Ogwr eu bod nhw’n hel consortiwm ynghyd i wireddu Ynys Ynni’r Ddraig.

Rhwng mis Mawrth a mis Mai eleni, fe wnaeth Llywodraeth Cymru rywfaint o waith maes er mwyn mesur faint o gefnogaeth sydd i’r fath brosiect, ac fe gawson nhw ymateb gan 27 o sefydliadau.

Cafodd caniatâd cynllunio ar gyfer morlyn llanw yn ardal Bae Abertawe ei roi yn 2015, ond dydy’r prosiect ddim wedi gweld golau ddydd o ganlyniad i ddiffyg cefnogaeth gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.