Mae’r heddlu wedi dod o hyd i gorff wrth chwilio am ddyn sydd wedi bod ar goll o ardal Machynlleth.

Er nad yw’r corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto, mae teulu Antony Oldham o Benegoes wedi cael gwybod am y datblygiad, meddai Heddlu Dyfed-Powys.

Daeth yr heddlu o hyd i’r corff ddoe (Dydd Sul, 19 Medi), ac mae Antony Oldham, 47, wedi bod ar goll ers 12 Medi pan adawodd ei gartref i fynd am dro.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod eu “meddyliau yn dal gyda’r teulu ar yr amser hwn”.