Mae Dŵr Cymru wedi cadarnhau eu bod nhw’n rhoi’r gorau i gynlluniau i yrru cerbydau milwrol ar draws corsydd Llyn Brenig.

Bwriad Dŵr Cymru, sydd yn rhan o Glas Cymru ac yn darparu dŵr i’r rhan fwyaf o gwsmeriaid Cymru, oedd codi £20 yr oedolyn a £13 i blant dan 16, am y pleser o fynd a phartïon o bobol “ar daith wefreiddiol trwy’r fforestydd a’r corsydd sy’n amgylchynu’r llyn.”

Roedden nhw’n bwriadu defnyddio cerbyd milwrol Hägglunds, sydd wedi cael ei addasu’n arbennig, i fynd â phobol ar deithiau dros y corsydd ger Llyn Brenig.

Bu ymateb chwyrn gan gannoedd o bobol leol, naturiaethwyr ac ecolegwyr i’r cyhoeddiad ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda phobol yn dweud ei fod yn “syniad hollol hurt”, heb ystyried barn y cyhoedd, na’r effaith ar fyd natur.

Wedi ystyried yr ymateb lleol, mae Dŵr Cymru wedi penderfynu peidio â mynd ymlaen â’r gweithgaredd.

“Gallwn gadarnhau na fydd y teithiau cerbydau aml-dirwedd arfaethedig yn digwydd bellach,” meddai Dŵr Cymru.

“Er nad oedd yr hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol yn cyflwyno’r gweithgareddau arfaethedig yn gywir, rydyn ni wedi gwrando ar yr adborth lleol a phenderfynu peidio mynd ar ôl y gweithgaredd hwn.”

Y cynllun

Mae Llyn Brenig yn gronfa ddŵr sydd wedi’i lleoli yng nghanol rhostiroedd Dinbych, ar uchder o 1,200 troedfedd, ar y ffin rhwng siroedd Conwy a Dinbych.

Wrth hyrwyddo’r cynlluniau gwreiddiol, dywedodd Dŵr Cymru fod yr Hägglunds yn gallu “croesi glaswelltir corsiog, pantiau lleidiog a thir creigiog yn hollol ddidrafferth wrth fynd â chi ar daith wefreiddiol trwy’r fforestydd a’r corsydd sy’n amgylchynu’r llyn”.

Mewn hysbyseb ar eu gwefan, sydd wedi cael ei chondemnio gan gannoedd o bobol leol, naturiaethwyr ac ecolegwyr, mae Dŵr Cymru yn ceisio gwerthu’r syniad fel hyn: “Dewch ar gerbyd traws gwlad Llyn Brenig boed law neu hindda am antur gyffrous dros fryn a dôl” gan ychwanegu: “Mae hi hyd yn oed yn gallu nofio mewn dŵr!”

“Cerbyd traws gwlad cymalog â thraciau yw ein Hägglunds Bandvagn (Bv) 206. Cafodd ei greu i gludo milwyr trwy gorsydd a choedwigoedd yr Arctig Sgandinafaidd. Gwasanaethodd ein cerbyd arbennig ni luoedd arfog Sweden yn y 1980au cyn cael ei gludo i’r DU.

“Does dim yn gallu atal y Bandvagn ysgafn a grymus â dwy uned â phedwar trac pwerus. Mae ganddo bwysedd daear isel dros ben (1.9 psi) diolch i’w draciau llydan, a phrin y gellir gweld unrhyw olion o’i hynt dros dirweddau Llyn Brenig.”

Cannoedd yn beirniadu cynllun Dŵr Cymru i yrru cerbydau milwrol ar draws corsydd Llyn Brenig

“Edrych yn debyg bod Dŵr Cymru heb ystyried y farn gyhoeddus wrth wneud y penderfyniad yna! Tybed wnaethon nhw ystyried yr effaith ar fywyd gwyllt?”