Mae cannoedd o bobl wedi ymateb yn chwyrn iawn i gynllun dadleuol gan Dŵr Cymru i yrru cerbydau milwrol ar draws corsydd ger Llyn Brenig.

Bwriad Dŵr Cymru, sydd yn rhan o Glas Cymru ac yn darparu dŵr i’r rhan fwyaf o gwsmeriaid Cymru, yw codi £20 yr oedolyn a £13 i blant dan 16, am y pleser o fynd a phartion o bobl “ar daith wefreiddiol trwy’r fforestydd a’r corsydd sy’n amgylchynu’r llyn.”

Y bwriad ydi defnyddio cerbyd milwrol “Hägglunds”, sydd wedi ei addasu’n arbennig, i “groesi glaswelltir corsiog, pantiau lleidiog a thir creigiog yn hollol ddidrafferth wrth fynd â chi ar daith wefreiddiol trwy’r fforestydd a’r corsydd sy’n amgylchynu’r llyn.”

Mewn hysbyseb ar eu gwefan sydd wedi cael ei chondemnio gan gannoedd o bobl lleol, naturiaethwyr ac ecolegwyr, mae Dŵr Cymru yn ceisio gwerthu’r syniad fel hyn: “Dewch ar gerbyd traws gwlad Llyn Brenig boed law neu hindda am antur gyffrous dros fryn a dôl” gan ychwanegu: “Mae hi hyd yn oed yn gallu nofio mewn dŵr!”

Bywyd Gwyllt

Un dyn sydd wedi ymateb yn ddig i hysbyseb Dŵr Cymru yw Gethin Clwyd. Ar ei gyfrif Facebook, dywed: “Edrych yn debyg bod Dŵr Cymru heb ystyried y farn gyhoeddus wrth wneud y penderfyniad yna! Tybed wnaethon nhw ystyried yr effaith ar fywyd gwyllt?”

Ychwanega Gruff a Nia Williams o Fethesda: “Cytuno’n llwyr! Datblygiad diangenrhaid gyda’r amcan o wneud pres yn unig. Digalon.”

“Erchyllbeth” yw sylw Anne Lloyd Cooper a dywed Rhys Harris: “Syniad hollol hurt.”

Mewn trydar, ychwanega cyn gomisiynydd yr Heddlu yn y Gogledd, Arfon Jones: “Gall hyn ddim fod yn iawn. Mae gyrru oddiar y ffordd fel hyn yn niweidio corsydd ac yn llygru’r dyfroedd. Mae hyn yn anghywir ar gymaint o lefelau.”

Mae Llyn Brenig yn gronfa ddŵr a leolir yng nghanol rhostiroedd Dinbych, ar uchder o 1200 troedfedd, ar y ffin rhwng siroedd Conwy a Sir Ddinbych.

Dywed Dŵr Cymru: “Cerbyd traws gwlad cymalog â thraciau yw ein Hägglunds Bandvagn (Bv) 206. Cafodd ei greu i gludo milwyr trwy gorsydd a choedwigoedd yr Arctig Sgandinafaidd. Gwasanaethodd ein cerbyd arbennig ni luoedd arfog Sweden yn y 1980au cyn cael ei gludo i’r DU.

“Does dim yn gallu atal y Bandvagn ysgafn a grymus â dwy uned â phedwar trac pwerus. Mae ganddo bwysedd daear isel dros ben (1.9 psi) diolch i’w draciau llydan, a phrin y gellir gweld unrhyw olion o’i hynt dros dirweddau Llyn Brenig.”

Oes Efydd

Mae Llyn Brenig yn cael ei ddefnyddio i reoli’r llif yn Afon Dyfrdwy fel rhan o system reoleiddio Afon Dyfrdwy sydd wedi’i chynllunio i ddiogelu’r cyflenwad dŵr ar gyfer gogledd orllewin Lloegr a gogledd-ddwyrain Cymru, Lerpwl a’r ardal gyfagos.

Mae’r hanner gogleddol yng nghymuned Nantglyn a’r hanner deheuol yng Ngherrigydrudion, gyda phentref Pentre-Llyn-Cymer wedi’i leoli i’r de o’r llyn.

Dechreuodd y gwaith adeiladu ym 1973 ac fe’i cwblhawyd ym 1976.

Wrth adeiladu’r llyn, canfuwyd nifer o ddefnyddiau o’r Oes Efydd, yn ogystal â gwersyll a ddefnyddiwyd Mesolithig. Mae hyn wedi’i ddyddio gan ddadansoddiad radiocarbon o’r siarcol o’u tanau i tua 5700 BC.

Mae nifer o lwybrau archeolegol o amgylch Llyn Brenig ac mae’r creiriau sydd i’w gweld yn cynnwys carnedd gylch – twmpath claddu o’r Oes Efydd – a sawl crug.

Mae canolfan ymwelwyr i’r de o’r llyn yn arddangos llawer o wybodaeth archeolegol am yr ardal cyn iddynt droi’r adran hanes yn ystafell gyfarfod.

Cynhelir nifer o chwaraeon dŵr ar y llyn, gan gynnwys hwylio, pysgota, canŵio a zorbing dŵr.

Yr unig gychod a ganiateir ar y llyn yw’r rhai a ddefnyddir gan bysgotwyr, cychod patrol Rangers a chwch diogelwch clwb hwylio.

Mae golwg360 wedi gofyn i Dwr Cymru am eu ymateb.

Teithwyr yn cael eu cludo y tu fewn i’r cerbyd milwrol.