Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd y system oleuadau traffig wrth deithio i mewn ac allan o Loegr yn dod i ben.

O Hydref 4, fe fydd y drefn bresennol o wledydd oren a gwyrdd yn dod i ben, gyda system restr goch yn unig yn cael ei chyflwyno.

Bydd unrhyw le sydd ddim ar y rhestr goch yn cael ei hystyried fel ‘gwlad werdd’, ac yn ei gwneud yn wlad sy’n rhydd i deithio iddi.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd y rheolau newydd hyn yn berthnasol i Gymru hefyd.

Ystyried

Fel rhan o’r cyhoeddiad ddoe (ddydd Gwener), mae Llywodraeth y DU wedi gwneud newidiadau i’r rheolau profion i deithwyr hefyd.

Ni fydd y rheolau hynny yn berthnasol i Gymru, serch hynny, gyda’r Gweinidog Iechyd yn dweud y byddant yn “ystyried yn ofalus” cyn cadarnhau unrhyw newid.

Mae’r newid yn golygu ni fydd angen i deithwyr gymryd prawf Covid-19 cyn teithio i Loegr o dramor.

Yna, o ddiwedd mis Hydref, fe fydd teithwyr sydd wedi eu brechu’n llawn sy’n dychwelyd i Loegr o wledydd sydd ddim ar y rhestr goch yn gallu cymryd profion llif unffordd i brofi am Covid-19 ar eu hail ddiwrnod wedi iddynt ddychwelyd, yn hytrach na phrofion PCR drytach.

Hunanynysu

Bydd rhaid i unrhyw un sydd wedi profi’n bositif am yr haint hunanynysu, a chymryd prawf PCR am ddim er mwyn helpu gyda’r broses o adnabod amrywiolion newydd.

Mae disgwyl i’r system newydd fod mewn grym tan y flwyddyn newydd o leiaf.

Ond bydd yn dal yn ofynnol i’r rhai sy’n cyrraedd yr Alban gymryd y prawf cyn gadael – gan gynnwys o gyrchfannau rhestr nad ydynt yn rhai coch – cyn dychwelyd, hyd yn oed os cânt eu brechu’n llawn, a bydd yn rhaid i’r prawf diwrnod dau fod yn PCR.