Bydd gan Ynys Môn bump yn fwy o gynghorwyr yn dilyn yr etholiadau lleol nesaf.

Ar hyn o bryd dim ond 30 o gynghorwyr sir sydd gan yr ynys – y nifer lleiaf ymhlith awdurdodau lleol Cymru – ond bydd hynny yn cynyddu i 35 y flwyddyn nesaf, yn ôl cynlluniau sydd wedi eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.

Fe fydd ffiniau rhai o’r wardiau hefyd yn newid, a hynny mewn pryd ar gyfer yr etholiadau ym mis Mai 2022.

Bydd y map newydd yn cynnwys 14 ward yn hytrach nag 11 – pob un ag unai dau neu dri chynghorydd – gyda’r newidiadau yn effeithio’n bennaf ar ardaloedd yng ngorllewin a chanol yr ynys.

Dyma’r ail waith i fap etholaethol yr ynys newid o fewn degawd, a hynny wedi i gomisiynwyr Llywodraeth Cymru gymryd rheolaeth yn 2013 a lleihau nifer y cynghorwyr o 40.

 

 

Bryd hynny roedd yn cael ei weld fel ymgais i geisio ffrwyno cynghorwyr annibynnol oedd wedi bod yn cystadlu am ddylanwad ar yr ynys, gan ffafrio pleidiau gwleidyddol yn lle hynny.

Bydd saith o’r wardiau newydd nawr yn ethol dau gynghorydd, a saith yn ethol tri chynghorydd.

Ymhlith y llefydd fydd yn gweld newidiadau fydd Caergybi, fydd yn cael ei rhannu’n ddwy ward o ddau aelod yn hytrach nag un ward o dri.

Bydd ward newydd hefyd yn dod i fodolaeth yng nghanol yr ynys, gyda Llangefni a Llangristiolus yn cyfuno i greu ‘Cefni’.

Cydraddoldeb

Fe fydd ward bresennol ‘Llifon’ yn cael ei diddymu, gyda wardiau dau-aelod newydd yn cael eu creu – ‘Crigyll’, fydd yn cynnwys Trewalchmai, Bryngwran a Llanfaelog, a ‘Bro’r Llynnoedd’ yn cynnwys cymunedau Caergeiliog, Y Fali a Bodedern.

Dywedodd prif weithredwr Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, Shereen Williams y byddai’r newidiadau’n golygu “gwell cydraddoldeb etholiadol ar draws Ynys Môn”.

“Rydw i wrth fy modd fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhellion hyn gydag addasiadau bychan yn unig,” meddai.