Dywedodd yr actor Forest Whitaker ei fod am ddychwelyd i Gymru “yn fuan” ar ôl ffilmio yma’n ddiweddar.

Mae’r actor adnabyddus wedi treulio’r wythnosau diwethaf yn ne Cymru yn ffilmio ffilm newydd ar gyfer Netflix.

Gelwir y ffilm sydd hefyd gyda’r actor Tom Hardy, yn Havoc.

Yn ystod seibiant o ffilmio, bu’n ymweld â rhai lleoliadau glan môr yn Sir Benfro gan gynnwys Ynys Santes Catherine Dinbych-y-pysgod a’r pier ym Mhenarth – gan rannu lluniau ohono’i hun yn mwynhau “Cymru brydferth”. Bu hefyd ar lan y môr ym Mhenarth ac ar ymweliad â Thŷ Tredegar yng Nghasnewydd.

 

Bu Hardy hefyd ar sawl ymweliad ag Ynys Y Barri.

Godidog

Ddoe fe drydarodd Whitaker, sy’n 60 oed ac yn dad i bedwar o blant: “Roedd yn rhaid i mi weld tirweddau godidog #Cymru cyn hedfan allan yn ôl i Efrog Newydd! Diolch i bawb am y croeso gwych a gefais yn eich gwlad. Byddaf yn ôl yn fuan.”

Mae Whitaker yn llysgennad arbennig dros Heddwch ar gyfer Unesco.

Enillodd Oscar am ei berfformiad fel Idi Amin yn The Last King of Scotland yn 2006.

Adnabyddus

Mae e hefyd yn adnabyddus am ei rolau yn Platoon, Bird, Good Morning, Vietnam, a Marvel’s Black Panther.

Penderfynodd Whitaker hefyd ymweld â siop goffi yn Stryd James, Caerdydd a oedd wedi ei argymell iddo pan ddywedodd wrth ffrindiau ei fod am gefnogi busnesau annibynnol sy’n eiddo i bobl dduon, meddai perchennog y siop.