Gallai merched beichiog wynebu “risg uwch o salwch difrifol” os nad ydyn nhw wedi cael eu brechu yn erbyn Covid.

Dylai merched beichiog gael brechiad Covid yn dilyn cynnydd yn y nifer sydd heb eu brechu ac angen gofal ysbyty, yn ôl prif swyddog meddygol Cymru.

Dywedodd Dr Frank Atherton bod mwy o fenywod beichiog nawr yn ddifrifol wael oherwydd y feirws.

Mae’r Coleg Brenhinol Obstetreg a Gynaecoleg a Choleg Brenhinol y Bydwragedd yn argymell i ferched beichiog gael eu brechu.

Ychwanegodd Dr Atherton bod y brechiad “yn ddiogel ac effeithiol” drwy gydol beichiogrwydd.

Rhybuddiodd bod dal Covid yn ystod beichiogrwydd yn creu “risg sylweddol” o orfod cael gofal ysbyty ac y gallai merched beichiog wynebu “risg uwch o salwch difrifol” o’i gymharu â gweddill y boblogaeth, yn arbennig yn ystod tri mis olaf y beichiogrwydd.

Niwed

“Gall y brechlyn Covid-19 warchod mamau a babanod rhag niwed y gellir ei osgoi,” meddai.

“Mae gyda ni nawr brofiad helaeth ledled y byd i wybod bod y brechlyn yn ddiogel ac effeithiol ymhob cymal beichiogrwydd. Ni ddylai merched aros [ond] ei dderbyn cyn gynted â phosib boed yn paratoi i feichiogi neu’n feichiog eisoes.”

Dywedodd Dr Atherton bod y brechlyn wedi ei seilio ar wyddoniaeth sydd wedi ei defnyddio’n ddiogel ar ferched beichiog ers llawer o flynyddoedd, gan gynnwys brechlynnau sydd eisoes yn cael eu rhoi i ferched beichiog ar gyfer cyflyrau fel y ffliw a’r pâs (whooping cough).

“Gellir rhoi’r brechlyn Covid-19 ar unrhyw adeg yn ystod beichiogrwydd,” meddai.

“Byddwn yn annog pobl i gysylltu gyda’u bwrdd iechyd os nad ydyn nhw wedi derbyn eu gwahoddiad. Mae’r dystiolaeth ddiweddaraf a meddygon proffesiynol yn cytuno mai’r brechlyn sy’n rhoi’r warchodaeth orau rhag Covid-19.”

Peryglus

Mae’r ystadegau Covid diweddaraf wedi dangos bod 520 o bobl yng Nghymru yn yr ysbyty gyda Covid, ac mae 42 o bobl, ar gyfartaledd, yn gorfod mynd i’r ysbyty am ofal bob diwrnod.

Dywedodd Dr Viki Male, darlithydd imiwnoleg atgenhedlol yng Ngholeg Imperial Llundain wrth raglen Gareth Lewis ar Radio Wales yn gynharach yr wythnos hon bod brechlynnau yn ddiogel ac yn effeithiol i ferched sydd eisoes yn feichiog neu’n ceisio cael plentyn.

Dywedodd: “Rydym yn gwybod bod Covid yn beryglus yn ystod beichiogrwydd, yn enwedig yn ystod ail hanner beichiogrwydd.

“Os rydych yn dal Covid mae’n fwy tebygol y bydd ein babi yn cael ei eni cyn pryd. Mae hefyd yn fwy tebygol y bydd ein babi’n farw-anedig.

“Felly os rydych chi’n ystyried beichiogi, mae’n bosib y bysech chi’n dymuno cael y brechiad fel eich bod yn cael eich amddiffyn ymlaen llaw.”