Mae 26 o brosiectau yn elwa o gronfa newydd gwerth £2.4 miliwn sy’n anelu at wella profiad ymwelwyr i Gymru.

Bwriad cronfa Y Pethau Pwysig yw rhoi cymorth i sefydliadau wrth gyflawni gwelliannau sylfaenol i seilwaith twristiaeth.

Mae hynny’n cynnwys cyflwyno mannau gwefru cerbydau trydan, gwell cyfleusterau toiled a pharcio ceir, a gwell arwyddion a phaneli dehongli.

Fe wnaeth awdurdodau lleol, parciau cenedlaethol, a sefydliadau annibynnol ddangos eu cefnogaeth i’r prosiectau – gyda’r gobaith y bydd yn gwella profiadau twristiaid ledled Cymru.

“Rhan bwysig o brofiadau pobol”

Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, yn credu bod yr arian yn hanfodol i gynnal gwaith yn rhai o atyniadau mwyaf poblogaidd Cymru.

“Yn dilyn yr haf prysur a gawsom yma yng Nghymru, rydym wedi gweld y rhan bwysig sydd gan amwynderau twristiaeth leol ar wneud taith yn un gofiadwy,” meddai.

“Mae’r cyfleusterau hyn yn aml yn mynd heb sylw ond maent yn rhan bwysig o brofiadau pobol pan fyddant yn ymweld â Chymru ac maent hefyd o fudd i’r rhai sy’n byw yn yr ardal.

“Rwy’n falch iawn ein bod yn gallu cefnogi’r sefydliadau hyn i wella profiad ymwelwyr yn eu hardaloedd.”

Siglenni yn Llyn Brenig?

Mae rhai o safleoedd ymweld Dŵr Cymru yn elwa o’r cynllun hefyd, fel Cwm Elan a Llyn Brenig.

Byddan nhw’n defnyddio’r arian i ddatblygu gweithgareddau awyr agored ar gyfer ymwelwyr, fel cyfleusterau beicio a siglen ddŵr.

“Gyda chynifer o bobl yn aros adref am eu gwyliau yr haf hwn, rydym wedi gweld mwy o bwysau mewn nifer o’n hatyniadau ymwelwyr a’n mannau prydferth lleol,” meddai Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Peter Perry.

“Felly, rydym yn hynod ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am y cymorth gwerthfawr, a fydd yn ein helpu i wella cyfleusterau a darparu profiadau mwy cynhwysol i ymwelwyr o bob oed a gallu.”