Bydd cofeb yn cael ei osod i anrhydeddu Betty Campbell MBE, y ddynes ddu gyntaf i fod yn bennaeth ysgol yng Nghymru a hyrwyddwr cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Y cerflun yng nghanol dinas Caerdydd fydd y cyntaf erioed o fenyw anffuglennol i gael ei godi mewn man cyhoeddus yn yr awyr agored yng Nghymru.
Yn dilyn ymgyrch gan y grŵp Monumental Welsh Women, bydd y gofeb efydd o Betty Campbell yn cael ei dadorchuddio mewn seremoni arbennig ar 29 Medi yn y Sgwâr Canolog, ynghanol y brifddinas.
Cafodd gwaith y fenyw o Dre-biwt fel addysgwr ac arweinydd cymunedol gydnabyddiaeth ryngwladol, ac mae’r gofeb wedi’i dylunio a’r chreu gan Eve Shepherd.
Daeth Betty Campbell i’r brig fel testun teilwng i gofeb yn dilyn pleidlais gyhoeddus i benderfynu cerflun o ba fenyw fyddai’n cael ei godi.
Roedd Margaret Haig Thomas (Arglwyddes y Rhondda), Elaine Morgan, Elizabeth Andrews a Sarah Jane Rees (Cranogwen) ar y rhestr fer hefyd, ac mae’r grŵp yn ceisio sicrhau cofebion i’r bedair hefyd.
Betty Campbell
Cafodd Betty Campbell ei geni yn Nhre-biwt yn 1934, a’i mewn mewn tlodi yn Tiger Bay gyda’i mam yn cael trafferth cael deupen llinyn ynghyd ar ôl i’w rhad gael ei ladd yn yr Ail Ryfel Byd.
Yn blentyn, roedd hi wrth ei bodd yn dysgu, ac enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Uwchradd i Ferched Lady Margaret yng Nghaerdydd, ond dywedodd athro wrthi na allai merch ddu dosbarth gweithiol fyth â chyrraedd yr uchelfannau academaidd.
Ond profodd nhw’n anghywir, a bydd y gofeb barhaol iddi’n dyst i’w hymdrechion.
Bu Betty Campbell yn hyrwyddo treftadaeth amlddiwylliannol ei gwlad drwy gydol ei gyrfa addysgu broffesiynol ac yn ei chymuned.
O dan ei harweiniad hi, daeth Ysgol Gynradd Mount Stuart yn Nhre-biwt yn esiampl wych o arfer gorau ym maes cydraddoldeb ac addysg amlddiwylliannol ledled y Deyrnas Unedig, etifeddiaeth sy’n parhau hyd heddiw.
Yn ystod ei chyfnod yn Ysgol Gynradd Mount Stuart, cafodd ei hysbrydoli gan fudiad hawliau sifil yr Unol Daleithiau gan addysgu ei disgyblion am gaethwasiaeth a hanes pobl ddu. Trefnodd Nelson Mandela i gyfarfod â hi ar ei unig ymweliad â Chymru.
Dylanwadodd Betty Campbell ar fywyd Cymru drwy gyfres o benodiadau cyhoeddus, gan wasanaethu fel cynghorydd annibynnol dros Dre-biwt, fel aelod o fwrdd BBC Cymru, aelod o bwyllgor cynghori ar hil y Swyddfa Gartref, ac aelod o’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol.
Helpodd i greu Mis Hanes Pobl Dduon, ac yn 2003 dyfarnwyd MBE iddi am ei gwasanaethau i addysg a bywyd cymunedol.
Dathlu ac ysbrydoli
Cenhadaeth Monumental Welsh Women yw dathlu uchelgais a llwyddiant menywod drwy gofio cyflawniadau menywod nodedig Cymru, ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o fenywod nodedig Cymru.
“Roeddem wrth ein boddau pan ddewiswyd Betty Campbell gan y cyhoedd o Gymru i fod y fenyw Gymreig gyntaf i gael ei choffáu â cherflun yng Nghymru,” meddai Helen Molyneux, sylfaenydd Monumental Welsh Women.
“Roedd cyflawniadau Betty yn anhygoel yn ystod ei hoes, ond, fel gyda chymaint o fenywod drwy gydol hanes, roeddent yn debygol o gael eu hanghofio neu eu hanwybyddu gan genedlaethau’r dyfodol oni bai bod rhywbeth yn cael ei wneud i ddod â hi i sylw pobl.
“Bydd y gofeb a grëwyd gan Eve Shepherd yn sicr o gyflawni hynny. Mae’n ddarn gwirioneddol eiconig a phrydferth a fydd yn dod â Chaerdydd i sylw’r byd.”
“Darn pwerus”
Dywedodd Elaine Clarke, merch Betty Campbell, bod y teulu’n “teimlo’n falch ac yn freintiedig iawn” o gael ei chofio “mewn ffordd mor hyfryd ac eiconig”.
“Drwy ei cherflun, mae Eve yn cyfleu natur benderfynol Betty, ynghyd â’i dyhead a’i hysbrydoliaeth a oedd yn adlewyrchu ei hangerdd tuag at amrywiaeth a chydraddoldeb gan ei gwneud yn fodel rôl gwirioneddol gadarnhaol i lawer yn y gymuned a thu hwnt,” meddai Elaine Clarke.
“Mae’r gofeb yn ddarn pwerus sy’n cyfleu mewn cerflun nid yn unig anian Betty Campbell, ond hefyd y gymuned y bu hi’n byw ynddi ac yn ei hyrwyddo yn ogystal â’r bobl a’r pethau a fu’n ysbrydoliaeth iddi drwy gydol ei bywyd rhyfeddol.”
“Dathlu cynhwysiant ac amrywiaeth”
Ychwanegodd Eve Shepherd ei bod hi wedi cael y “fraint a’r anrhydedd fawr o greu cofeb sy’n dathlu cynhwysiant ac amrywiaeth”.
“Rwy’n gobeithio bod y cerflun hwn yn deyrnged addas i Gaerdydd a Tiger Bay, sef y gymuned gyfoethog, llawn amrywiaeth y cafodd Betty ei magu ynddi ac a oedd yn agos at ei chalon.
“Fy nod drwy’r gofeb hon oedd parhau â’r addysg yr oedd gan Betty gymaint o angerdd tuag ato, yn enwedig addysg y gymuned ddu.
“Yn olaf, roeddwn yn gobeithio talu gwrogaeth i Betty, y fenyw werthfawr, gadarn, gref, er mwyn cadw ei hetifeddiaeth a’r cof ohoni’n fyw.”
Mae cerdd goffa wedi’i chyfansoddi’n arbennig gan Fardd Preswyl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Taylor Edmunds, ar gyfer y seremoni.
Bydd y seremoni yn dechrau am 11yb dydd Mercher, 29 Medi yn Sgwâr Canolog, Caerdydd.