Mae Llafur Cymru wedi canslo’u cynhadledd yn sgil cynnydd yn nifer yr achosion o Covid-19 yng Nghymru.

Cafodd y gynhadledd ei symud o Chwefror 5 i Dachwedd 7, wrth i’r prif weinidog ac arweinydd Llafur Cymru, Mark Drakeford rybuddio y gallai’r Gwasanaeth Iechyd fod dan gryn bwysau yn ystod misoedd yr hydref.

Roedd disgwyl oddeutu 1,000 o bobol yn Llandudno ar gyfer y gynhadledd gyntaf i’w chynnal gan y blaid ers 2019.

Yn ôl llefarydd ar ran y blaid, doedd y penderfyniad i ganslo’r gynhadledd “ddim yn un hawdd”.

Mae disgwyl i’r blaid gynnal eu cynhadledd wanwyn rhwng Mawrth 11-13.