Mae’r pris gofynnol cyfartalog am dŷ ledled Prydain yn uwch nag erioed, ar ôl cyrraedd record o £338,462 ym mis Medi.
Mae’r pris hwnnw £15 yn ddrytach na’r record flaenorol a gafodd ei gosod ym mis Gorffennaf, yn ôl Rightmove.
Bu cynnydd o 9.4% mewn prisiau cyfartalog yng Nghymru ers mis Medi llynedd, ond mae prisiau wedi gostwng 1.5% ers mis Awst.
Ar gyfartaledd, y pris gofynnol am dŷ yng Nghymru y mis yma yw £232,440.
Dim ond yn ne orllewin Lloegr y bu cynnydd blynyddol uwch nag yng Nghymru, sef cynnydd o 9.5%.
Roedd cynnydd uwch nag 8% yn nwyrain Lloegr, de ddwyrain Lloegr, a Dwyrain Canolbarth Lloegr hefyd.
Cystadleuaeth “chwyrn”
Yn ôl Rightmove, mae cystadleuaeth chwyrn rhwng prynwyr a nifer fechan o dai ar werth.
Ychwanega’r cwmni fod prynwyr sy’n barod i symud – naill efo arian yn y banc i dalu, rhai sydd wedi gwerthu eu tŷ, neu’n prynu am y tro cyntaf ac wedi llwyddo i gael morgais – yn “cael y blaen” ar rai sydd dal angen gwerthu eu tŷ eu hunain er mwyn gallu prynu.
“Mae’r gystadleuaeth ymysg darpar brynwyr i sicrhau eu tŷ nesaf yn fwy na dwbl yr hyn yr oedd yn ystod yr amser yma yn 2019,” meddai Tim Bannister, cyfarwyddwr data eiddo Rightmove.
“I fod yn y sefyllfa orau yn y ras i brynu’r eiddo gorau mae’n rhaid cael pŵer prynu cryfach na gweddill y cystadleuwyr.
“Yn draddodiadol, byddai hynny’n golygu mwy o arian i gynnig mwy na phrynwyr eraill, ond yn y farchnad fwyaf cystadleuol erioed, rhaid i ‘brynwyr pwerus’ orfod bod wedi ffeindio prynwr i brynu eu heiddo nhw hefyd, neu ddim yn gorfod gwerthu o gwbl.
“Mae asiantaethau yn adrodd bod prynwyr sydd wedi gwerthu, yn amodol ar gontract, yn cael y blaen ar brynwyr sydd heb werthu eto.
“Bydd tystiolaeth bod gennych chi forgais yn barod neu eich bod chi’n gallu gwario’r arian heb fod angen morgais yn eich helpu i gael y dewis gorau yn y farchnad dai.”
Ledled Prydain, bu cynnydd o 14% yn y tai sydd ar y farchnad yn ystod pythefnos gyntaf mis Medi o gymharu â phythefnos olaf Awst.
Dywed Rightmove y dylai dewis ehangach o dai annog mwy o berchnogion i roi eu tai nhw ar y farchnad, gan fod mwy o dai ar gael iddyn nhw eu prynu.
“Dim ond darlun buan yw’r cynnydd o 14% o werthwyr newydd yn cyrraedd y farchnad yn ystod hanner cyntaf mis Medi, ond mae’r hydref yn gyfnod prysur yn draddodiadol, wrth i brynwyr sydd wedi oedi’n ystod y flwyddyn weld yr ychydig fisoedd cyn y Nadolig fel cyfle i ddechrau ar eu cynlluniau’n hwyr,” meddai Tim Bannister.