Mae Conradh na Gaeilge yn dweud bod penderfyniad y Wladwriaeth i apelio yn erbyn dyfarniad yn yr Uchel Lys i sicrhau hawliau i siaradwyr iaith Wyddeleg yn dangos bod “atgasedd amlwg yn system y Wladwriaeth at ddarparu hawliau ieithyddol”.

Fis Mai y llynedd, penderfynodd barnwr fod rhaid i’r Wladwriaeth ddarparu fersiwn Wyddeleg o rai dogfennau statudol i Siobhán Denvir-Bairéad, Gleann Mór Céibh Teoranta a Gleann Mór Cuan Teoranta rhag ofn eu bod nhw am ddwyn achos yn erbyn cwmni Irish Water.

“Mae yna bobol yn y wlad hon, yn enwedig y rheiny yn y Gaeltach neu’r rheiny nad ydyn nhw’n byw yn y Gaeltacht ond sy’n siarad yr iaith Wyddeleg, sydd am ddefnyddio’r iaith bob dydd,” meddai’r Barnwr O’Hanlon yn ei dyfarniad.

“Mae ganddyn nhw hawliau cyfansoddiadol i wneud hynny ac mae gan y Wladwriaeth ddyletswydd gyfansoddiadol i hwyluso’r defnydd o’r Wyddeleg gan ddinasyddion yn gydradd â Saesneg.”

Ymateb i benderfyniad yr Adran Dai

Mae Conradh na Gaeilge wedi ymateb yn chwyrn i’r Adran Dai, wrth i’r llywydd Dr Niall Comer ddweud ei bod hi’n “warthus” fod y Wladwriaeth yn ymosod ar hawliau ieithyddol.

“Mae’n warthus fod system y Wladwriaeth yn cael ei defnyddio i atal hawliau ieithyddol yn hytrach na chynnal hawliau ieithyddol y gymuned sy’n siarad y Wyddeleg,” meddai.

“Mae hyd yn oed yn fwy ffiaidd fod yr apêl yma gan yr Adran wedi’i hariannu gan drethdalwyr Gwyddelig sydd, o fwyafrif swmpus, yn cefnogi’r Gaeltacht mewn arolygon diweddar.”

Mae’n dweud bod yna “wahaniaeth mawr yn rhethreg swyddogol y Wladwriaeth… a pholisi system y Wladwriaeth o ran yr iaith Wyddeleg”.

“Mae’n ofnadwy ac yn sarhad fod yr Adran Dai yn dangos y diffyg parch hwn at yr iaith Wyddeleg a’u bod nhw’n gweithio’n ddiwyd i amddifadu’r cyhoedd o’u hawliau ieithyddol,” meddai.

“Fyddai hyn ddim yn codi mewn unrhyw wlad arall yn y byd o ran yr iaith swyddogol gyntaf.”

Mae Peadar Mac Fhlannchadha, dirprwy ysgrifennydd cyffredinol a rheolwr eiriolaeth Conradh na Gaeilge, yn galw am “arweinyddiaeth gyhoeddus gan ein gwleidyddion, gan ddechrau gyda’r Taoiseach, i atal system y Wladwriaeth rhag ymosod ar yr iaith Wyddeleg a chymryd perchnogaeth o’r broses er mwyn sicrhau bod siaradwyr y Wyddeleg yn cael hawliau ieithyddol llawn”.

“Does dim diben i “gefnogaeth swyddogol” fondigrybwyll tra bod system y Wladwriaeth ar yr un pryd yn ein hamddifadu ni o’n hawliau ieithyddol,” meddai.

“Yn wir, mae hi’n anghredadwy, ond yn wir, y bydd gan ddinasyddion Gwyddelig fwy o hawliau ieithyddol o du’r Undeb Ewropeaidd nag ar ddechrau’r flwyddyn nesaf nag y mae ein Gwladwriaeth yn barod i’w cynnig i ni.

“Mae hyn yn gwbl anghywir a rhaid i’n cynrychiolwyr cyhoeddus etholedig, sydd wedi’u hethol i gynnal ein hawliau, weithredu ar unwaith.

“Fel cam cyntaf, rydym yn galw ar y Taoiseach Michael Martin, TD a’r Gweinidog Tai, Llywodraeth Leol a Threftadaeth, Darragh O’Brien, TD i sefyll i fyny a dangos arweinyddiaeth er lles hawliau’r gymuned iaith Wyddeleg ac i sicrhau bod yr apêl gan yr Adran Dai yn cael ei thynnu’n ôl ar unwaith.”