Mae un o weinidogion y Swyddfa Dramor yn mynnu nad yw’r cytundeb gyda’r Unol Daleithiau i ddatblygu llongau tanfor niwclear i Lynges Frenhinol Awstralia “yn ymwneud â Ffrainc”.
Daw hyn wedi i gytundeb rhwng Ffrainc ac Awstralia i adeiladu llongau tanfor traddodiadol gael ei ganslo.
Dywedodd James Cleverly, gweinidog yn y Swyddfa Dramor, wrth Sky News fod y cytundeb “yn ymwneud â’n perthynas gref â’r Unol Daleithiau ac Awstralia, mae e’n ymwneud ag atgyfnerthu perthynas amddiffynnol eithriadol o bwysig a chref, a bydd e’n sicrhau bod gennym ni swyddi cynhyrchu hi-tech yma yn y Deyrnas Unedig”.
“Yn amlwg, gydag unrhyw berthynas ryngwladol, mae yna dda a drwg, a does gen i ddim amheuaeth y byddwn ni’n datrys unrhyw densiynau sydd yno gyda Ffrainc ar y funud,” meddai James Cleverly.
“Ond mae hyn yn ymwneud ag (a) sicrhau ein bod ni wedi’n hamddiffyn, a (b) ein bod ni mewn perthynas agos â’n partneriaid amddiffyn a diogelu cryfaf, a mwyaf hirsefydlog, yn y byd.
“Dw i’n meddwl y byddai gwylwyr yn rhyfeddu pe na baen nhw’n meddwl bod y Deyrnas Unedig yn gystadleuol ac yn wlad sydd â chysylltiadau rhyngwladol.
“Dyna ydyn ni, a dyna rydyn ni’n ei wneud.
“Rydyn ni wedi gwneud ein safbwynt yn gwbl glir fod hon yn Brydain ryngwladol, rydyn ni’n cysylltu â’r byd, rydyn ni’n gweithio gyda’n partneriaid dros yr holl fyd, gan gynnwys yr Unol Daleithiau, gan gynnwys Awstralia.
“Mae a wnelo’r berthynas gytundebol rhwng Ffrainc ac Awstralia â Ffrainc ac Awstralia.”
Ffrainc yn ceisio cefnogaeth Ewropeaidd
Yn y cyfamser, yn sgil y fargen Aukus, mae Ffrainc wedi canslo cyfarfodydd gyda swyddogion Prydain ac Awstralia ac yn ceisio cefnogaeth gweddill gwledydd yr UE ar y mater, yn ôl adroddiadau.
Ymddengys bod llywodraeth Ffrainc wedi cael ei syfrdanu gan y cytundeb, a’i bod yn teimlo bod ei buddiannau strategol ei hun yn y Môr Tawel (mae ganddi diriogaethau a phresenoldeb milwrol yno) yn cael eu hanwybyddu gan gynghreiriaid mawr.
Bydd y gweinidog tramor, Jean-Yves Le Drian, yn Efrog Newydd i gynrychioli Ffrainc yng Nghynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig – ac mae disgwyl iddo roi cynhadledd newyddion i drafod y sefyllfa.
Mae hefyd yn cyfarfod â gweinidogion tramor o’r 26 o wledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd yn Efrog Newydd, gan drafod canlyniadau’r fargen a chan amlinellu gweledigaeth Ffrainc ar gyfer Ewrop sy’n fwy strategol annibynnol.
“Nid dim ond mater Ffrainc ac Awstralia yw hyn, ond mater o ddiffyg ymddiriedaeth mewn cynghreiriau,” meddai Mr Le Drian ym mhapur newydd Ffrainc Ouest-France. “Mae hyn yn galw am feddwl difrifol ynghylch yr union gysyniad o’r hyn a wnawn gyda chynghreiriau.”
Dywedodd ei fod wedi canslo cyfarfod gyda’i gyd-weinidog o Awstralia yn Efrog Newydd “am resymau amlwg”.
Awstralia, Ffrainc a’r Undeb Ewropeaidd
Fodd bynnag, mae’r awdurdodau yn Ffrainc ac Awstralia yn dweud na fydd y dicter yn Paris dros y cytundeb sydd wedi’i ganslo yn effeithio ar drafodaethau ynghylch cytundeb masnach rydd rhwng yr Undeb Ewropeaidd ac Awstralia.
Cafodd llysgenhadon Ffrainc yn yr Unol Daleithiau ac Awstralia eu tynnu oddi yno’r wythnos ddiwethaf, ar ôl i’r cytundeb rhwng yr Unol Daleithiau, Awstralia a’r Deyrnas Unedig ddod i’r amlwg.
Rhoddodd y cytundeb hwnnw stop ar gytundeb gwerth £47bn rhwng Awstralia a Ffrainc, a fyddai wedi golygu bod cwmni sy’n berchen i’r wladwriaeth yn Ffrainc, yn bennaf, yn adeiladu deuddeg llong danfor diesel-trydan draddodiadol i Awstralia.
Gwadodd Jean-Pierre Thebault, llysgennad Ffrainc yn Awstralia, fod Ffrainc yn lobïo’r Undeb Ewropeaidd i beidio ag arwyddo cytundeb masnach ag Awstralia.
“Ar y funud, mae’r trafodaethau yn parhau ac mae yna ddiddordeb cryf… i Awstralia gael cytundeb masnach rydd â’r Undeb Ewropeaidd,” meddai wrth yr Australian Broadcasting Corp.
Mae gan y fath gytundeb “y potensial i roi nifer anferth o fuddion i Awstralia”, meddai.
Dywed Dan Tehan, gweinidog masnach Awstralia, nad yw’n gweld unrhyw reswm pam na fyddai’r trafodaethau ynghylch cytundeb masnach rydd â’r Undeb Ewropeaidd yn parhau.
Teithiodd Emmanuel Macron, Arlywydd Ffrainc, i’r Unol Daleithiau heddiw (dydd Llun, Medi 20), a bydd yn siarad â Joe Biden, Arlywydd yr Unol Daleithiau, am y tro cyntaf ers dechrau’r argyfwng diplomyddol hwn, yn y dyddiau nesaf.