Mae’r Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi partneriaeth amddiffyn newydd gyda’r Unol Daleithiau ac Awstralia.

Daw hyn wrth i wledydd Gorllewinol geisio monitro grym cynyddol Tsieina ar draws rhanbarth Cefnfor India a’r Cefnfor Tawel.

Mae’n debyg y bydd llongau tanfor niwclear yn cael eu rhannu gyda Llynges Frenhinol Awstralia fel rhan o gytundeb ‘Aukus’ er mwyn cynyddu gallu amddiffynnol y gwledydd yn y rhanbarth.

Bydd hynny’n cael ei drefnu dros y 18 mis nesaf, gyda Llywodraeth Prydain yn darogan y bydd “cannoedd” o swyddi yn cael eu creu ym meysydd gwyddoniaeth a pheirianneg.

Mae Boris Johnson yn dweud mai’r Alban a rhannau o ogledd a chanolbarth Lloegr fydd yn gweld y mwyafrif o’r swyddi hyn.

Y tri arweinydd

Mewn datganiad ar y cyd neithiwr (nos Fercher, Medi 15), fe wnaeth arweinwyr y tair gwlad gadarnhau’r “bartneriaeth amddiffyn dairochrog newydd.”

Chafodd Tsieina mo’i chydnabod yn y cyhoeddiad, ond roedd cyfeiriad cyson at y sefyllfa newidiol ym mhen draw’r byd.

Dywed Boris Johnson fod cytundeb ‘Aukus’ am weithio’n “agos iawn i amddiffyn diogelwch a sefydlogrwydd yn ardaloedd Môr India a’r Môr Tawel”.

Mae Joe Biden, Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn dweud bod “dyfodol pob gwlad” yn dibynnu ar sefyllfa “rydd ac agored” yn y rhanbarth.

Dywed Scott Morrison, prif weinidog Awstralia, fod y byd “yn dod yn fwy cymhleth, yn enwedig yn ein rhan ni ohono”, ac y byddai dyfodol yr ardal yn “effeithio ar ein dyfodol ni i gyd.”