Mae Ben Wallace, Ysgrifennydd Amddiffyn San Steffan, wedi amddiffyn y prif weinidog Boris Johnson ar ôl iddo ad-drefnu Cabinet Llywodraeth Prydain.

Yn ôl Wallace, dydy’r prif weinidog ddim wedi diswyddo gweinidogion o ganlyniad i anallu ac mae’r feirniadaeth o Gavin Williamson wedi bod yn annheg, tra ei fod e hefyd yn mynnu na chafodd Dominic Raab ei ddiswyddo o fod yn Ysgrifennydd Tramor o ganlyniad i helynt Affganistan a’i wyliau.

“Mae e wedi symud pobol o’r Llywodraeth, nid am eu bod nhw’n analluog, nid oherwydd nad oedden nhw’n ddigon ffyddlon ac yn y blaen, a dyna’r naratif welwch chi’n aml iawn, ond yn aml, fe fu’n rhaid iddo fe adfywio’i dîm a symud pobol allan o’r ffordd,” meddai wrth BBC Breakfast.

Fe fu Dominic Raab dan y lach am gymryd gwyliau tra bod y Taliban yn cipio grym yn Affganistan, ond mae Wallace yn dweud “nad dyna pam” ei fod e wedi cael ei symud i fod yn Ysgrifennydd Cyfiawnder, sy’n swydd llai pwysig yn y Cabinet.

“Cyfreithiwr yw Dominic wrth ei alwedigaeth, dechreuodd ei fywyd yn y Swyddfa Dramor fel cyfreithiwr hawliau dynol ac mae e wedi mynd i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, sydd yn swydd bwysig dros ben ac yn swydd mae e’n ei deall yn iawn,” meddai.

Mwy o fenywod

Mae Ben Wallace hefyd wedi amddiffyn penodiad Nadine Dorries yn Ysgrifennydd Diwylliant yn lle Oliver Dowden.

Mae’n dadlau mai penodi mwy o fenywod i’r Cabinet oedd y bwriad.

“Roedd y prif weinidog eisiau cyflwyno nifer o aelodau seneddol benywaidd, mae e’n benderfynol o sicrhau cydraddoldeb nid yn unig yn y wlad ond hefyd yng nghynrychiolaeth fy mhlaid o amgylch bwrdd y Cabinet,” meddai wrth Sky News.

“Dw i’n credu bod Nadine Dorries, mewn gwirionedd, yn awdur blaenllaw.

“Os nad yw hynny’n rhan o ddiwylliant…

“Mae hi wedi gwerthu miloedd ar filoedd o lyfrau ac os nad yw hynny’n rhan o ddiwylliant, y cyfryngau a chwaraeon, wn i ddim…

“Yr hyn sy’n wych am Nadine Dorries yw ei bod hi’n cynhyrchu diwylliant mae pobol yn ei brynu ac am ei weld yn hytrach na rhai o’r cynlluniau mwyaf gwallgof rydyn ni wedi’u gweld yn cael eu hariannu yn y gorffennol gan arian trethdalwyr.”

Ad-drefnu’r Cabinet: Y manylion yn dilyn diwrnod prysur yn San Steffan

Huw Bebb

Liz Truss yn Ysgrifennydd Tramor, Dominic Raab yn Ysgrifennydd Cyfiawnder, Gavin Williamson wedi’i ddiswyddo