Roedd hi’n ddiwrnod prysur yn San Steffan heddiw (15 Medi), wrth i’r Prif Weinidog Boris Johnson ad-drefnu ei gabinet.

Daeth hyn ar yr un diwrnod ag oedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn mynd ati i ddileu’r cynnydd o £20 mewn credyd cynhwysol.

Tua diwedd y dydd, cadarnhaodd Downing Street y byddai nifer o weinidogion y Cabinet yn aros yn eu swyddi – gyda Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru, yn eu plith

Gavin Williamson oedd y cyntaf i golli ei swydd yn yr ad-drefu, gyda Boris Johnson yn ei ddiswyddo fel Ysgrifennydd Addysg.

Roedd wedi bod yn y rôl ers 2019, a daeth o dan bwysau i ymddiswyddo sawl gwaith.

Yr wythnos ddiwethaf, cafodd ei feirniadu ar ôl iddo ddweud ei fod wedi cwrdd â’r pêl-droediwr Marcus Rashford ar-lein, pan oedd mewn gwirionedd wedi siarad â’r chwaraewr rygbi Maro Itoje.

Cafodd ei alw’n “prat” gan ddirprwy arweinydd y blaid Lafur Angela Rayner.

“Mae’n dda bod Gavin Williamson wedi cael ei ddiswyddo ond fe ddylai fod wedi cael ei ddiswyddo dros flwyddyn yn ôl,” meddai.

“Mae twpdra a methiannau llwyr y prat hwnnw wedi niweidio cyfleoedd bywyd plant ein gwlad ac mae’r llywodraeth hon wedi methu pobl ifanc, athrawon a staff addysg.”

Daeth cadarnhad yn ddiweddarach mai Nadhim Zahawi fyddai’n disodli Gavin Williamson fel yr Ysgrifennydd Addysg newydd.

Y Cymro Robert Buckland yn colli ei swydd

Collodd y Cymro Robert Buckland ei swydd fel yr Ysgrifennydd Cyfiawnder a’r Arglwydd Ganghellor, a hynny ar ôl bod yn y swydd am ddwy flynedd.

“Mae wedi bod yn anrhydedd gwasanaethu fel rhan o’r Llywodraeth dros y 7 mlynedd diwethaf, ac fel yr Arglwydd Ganghellor am y 2 ddiwethaf,” meddai.

“Rwy’n hynod falch o bopeth yr wyf wedi’i gyflawni. Ymlaen i’r antur nesaf.”

Yn y cyfamser, cafodd Amanda Milling wedi cael ei diswyddo fel cyd-gadeirydd y blaid Geidwadol.

Diolchodd i Boris Johnson am y cyfle, gan ddweud ei bod hi “wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd bod yn Gyd-Gadeirydd y Blaid Geidwadol”.

“Diolch i’r blaid wirfoddol a’r tîm yn CCHQ am eu cefnogaeth.”

Oliver Dowden gafodd ei benodi fel olynydd Amanda Milling.

Michael Gove yn symud

Fe gollodd Robert Jenrick, Aelod Seneddol Newark, ei swydd fel Ysgrifennydd Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol – gyda Michael Gove ei ddisodli ar ôl gadael ei rôl fel Gweinidog dros Swyddfa’r Cabinet.

Bydd Michael Gove hefyd gyda chyfrifoldeb dros ‘yr Undeb’.

Dywedodd Robert Jenrick ei fod wedi bod yn “fraint enfawr” i wasanaethu wrth iddo gadarnhau ei fod yn gadael.

Stephen Barclay fydd yn ymgymryd â hen swydd Michael Gove yn Swyddfa’r Cabinet.

Liz Truss yn disodli Dominic Raab

Collodd Dominic Raab ei swydd fel Ysgrifennydd Tramor, gan symud i fod yn Ysgrifennydd Cyfiawnder, yr Arglwydd Ganghellor a’r Dirprwy Brif Weinidog.

Mae’n debyg bod Rhif 10 yn awyddus i hyn beidio â chael ei ystyried fel cosb yn dilyn ei ymdriniaeth o gwymp Affganistan i’r Taliban.

Liz Truss sydd wedi ei olynu fel Ysgrifennydd Tramor, gan barhau fel Gweinidog Menywod a Chydraddoldeb hefyd.

Anne-Marie Trevelyan fydd yn camu i hen swydd Liz Truss, sef Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol.

Penodi Nadine Dorries yn Ysgrifennydd Diwylliant

Cafodd Nadine Dorries ei phenodi yn Ysgrifennydd Diwylliant yn hwyr yn y dydd.

Dywedodd ei bod yn “hapus iawn” i gael ei phenodi i’r rôl wrth iddi adael Rhif 10.

Cadw swyddi

Daeth cadarnhad gan Rhif 10 Downing y byddai Priti Patel yn cadw ei swydd fel Ysgrifennydd Cartref.

Dywedodd Patel ei bod hi’n “fraint” aros yn y Swyddfa Gartref.

“Braint enfawr i barhau i wasanaethu fel Ysgrifennydd Cartref o dan ein Prif Weinidog Boris Johnson,” meddai.

Yn fuan wedyn, daeth i’r amlwg fod swydd y Canghellor Rishi Sunak hefyd yn saff yn ogystal â’r Ysgrifennydd Amddiffyn Ben Wallace.

Hefyd, bydd George Eustice yn cadw ei swydd fel Ysgrifennydd yr Amgylchedd ac Alister Jack yn parhau fel Ysgrifennydd yr Alban.

Bydd Brandon Lewis Hefyd yn parhau fel Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon.

Mae’r Arglwydd Frost hefyd yn aros yn ei swydd fel Gweinidog Brexit.

Mae Therese Coffey yn cadw ei swydd fel Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau yn ogystal.

  • Isod, gallwch ddarllen ein blog byw wrth i’r newyddion dorri.

Boris Johnson yn ad-drefnu ei Gabinet

Liz Truss yn Ysgrifennydd tramor, Dominic Raab yn Ysgrifennydd Cyfiawnder, Gavin Williamson wedi’i ddiswyddo… holl ddiweddariadau ar ein llif byw