Mae cynghorwyr Sir Gaerfyrddin wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gymeradwyo ac ariannu technoleg gwrth-Covid mewn ysgolion ar frys.
Roedden nhw wedi trafod y mater yn eu cyfarfod llawn fore heddiw (dydd Mercher, 15 Medi), ar ôl iddi ddod i’r amlwg mai Sir Gâr sydd â’r mwyaf o achosion Covid-19 yng Nghymru ar hyn o bryd.
Mae’n debyg bod achosion o’r amrywiolyn Delta ymysg plant a phobol ifanc y sir ar gyfradd ddigynsail yn ôl y cyngor.
Fe wnaeth y llywodraeth gyhoeddi eu bod nhw am fuddsoddi £5.9 miliwn mewn technoleg i wella ansawdd aer ddiwedd mis Awst eleni, cyn i ysgolion ailagor am y flwyddyn newydd.
Ond oherwydd pryderon diogelwch, maen nhw wedi gohirio cyflwyno’r diheintyddion oson sy’n rhan o’r cynlluniau hynny i sefydliadau addysg.
Mae aelodau o Gyngor Sir Gaerfyrddin nawr yn annog y llywodraeth i gyflwyno mwy o dechnoleg mewn ysgolion sydd wedi eu hargymell gan arbenigwyr, fel dyfeisiau uwchfioled neu Hidlyddion Aer Gronynnol Effeithlonrwydd Uchel (HEPA).
“Aer glân yn allweddol”
Mae Glynog Davies, Aelod y Cabinet dros Addysg, wedi croesawu’r dechnoleg monitro CO2 yn yr aer sydd wedi ei gyflwyno hyd yn hyn.
“Gan ei fod yn firws sy’n bodoli yn yr awyr, mae awyru ac aer glân yn allweddol yn y frwydr yn erbyn Covid-19,” meddai.
“Mae hynny’n cael ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru yn eu bwriad i ddarparu offer monitro CO2.
“Nid yw monitro ynddo’i hun yn datrys awyru gwael wrth gwrs, ond gall ddangos fod problem yn bodoli a bod angen cymryd camau adferol.”
Technoleg newydd
Mae’r Asiantaeth Iechyd a Diogelwch wedi argymell mai’r offer mwyaf addas i liniaru ansawdd aer gwael yw dyfeisiau uwchfioled neu HEPA, sydd ag effeithiolrwydd o 99.97% o ran ffiltro firysau.
Mae Cyngor Sir Gâr bellach yn gwthio ar Lywodraeth Cymru i fynd ati i sicrhau bod y dechnoleg hon ar gael mewn ysgolion ar frys.
“Mae neilltuo miliynau o bunnau at y gwaith yn dangos fod Llywodraeth Cymru yn barod i gymryd cyfrifoldeb am dechnoleg gwrth-Covid yn ein hysgolion,” meddai’r Cadeirydd Craffu Addysg, Darren Price.
“Yr hyn y mae’n rhaid iddyn nhw ei wneud yn awr yw ystyried gosod technoleg wahanol sydd wedi cael ei brofi i wella ansawdd aer yn y dosbarth, gan leddfu’n sylweddol y risg o ddal a lledaenu’r feirws.”