Fe fydd cynllun HS2 Llywodraeth San Steffan – sy’n rhedeg o Lundain i Birmingham – yn dod â “manteision enfawr” i Gymru, meddai David TC Davies, y Gweinidog yn Swyddfa Cymru.

Daeth ei sylwadau wrth iddo ymateb i gwestiwn gan yr Aelod Ceidwadol Jacob Young yn y sesiwn Cwesitynau Cymreig.

“A yw’r gweinidog yn cytuno â mi y bydd gan HS2 fudd gwirioneddol ledled y wlad mewn lleoedd fel Port Talbot ac yng Nglannau Dyfrdwy os defnyddiwn ddur y Deyrnas Unedig wrth ei adeiladu?”

Fe ddywedodd David TC Davies: “Bydd llawer o gwmnïau yng Nghymru yn tendro am waith ar brosiect HS2, felly wrth gwrs bydd manteision enfawr i Gymru.

“Bydd yna fanteision enfawr i’r diwydiant rheilffyrdd ac wrth gwrs manteision enfawr i’r Deyrnas Unedig gyfan gan fod HS2 hefyd yn ymwneud â chael pobl oddi ar y ffyrdd ac ar y rheilffyrdd yn lle.

“Dylai unrhyw un sy’n cefnogi cael Prydain carbon net sero erbyn 2050 fod yn ei gefnogi.”

Mae HS2 yn gynllun sy’n sicrhau trafnidiaeth trenau cyflym a fydd yn cysylltu dinasoedd yn Lloegr ond ni fydd unrhyw gledrau’n cael eu gosod yng Nghymru.

Buddsoddi i fuddio’r mwyafrif

Fe ofynnodd Tonia Antoniazzi, AS Llafur dros etholaeth Gwyr ei phryderon bod Cymru ar ei cholled wrth beidio â derbyn buddsoddiad trydaneiddio rheilffyrdd.

Fe ddywedodd David TC Davies: “Byddai costau enfawr wedi bod o ran trydaneiddio rhwng Caerdydd ac Abertawe.

“Nid oes unrhyw fudd gwirioneddol i deithwyr o ran llai o amser felly’r hyn y mae’r Llywodraeth hon am ei wneud yw gwario’r arian hwnnw lle bydd yn cael yr effaith a’r budd mwyaf i’r rheilffyrdd.”