Mae’r niferoedd sy’n dysgu Cymraeg ym Mhatagonia wedi gostwng yn sgil y pandemig, yn ôl adroddiad newydd.

Dangosa adroddiad diweddaraf ar Brosiect yr Iaith Gymraeg yn Chubut, Patagonia sut effaith mae’r pandemig wedi’i gael ar yr iaith yn y rhanbarth.

O ganlyniad i gau ysgolion yn sgil y pandemig, mae nifer y plant sy’n astudio’r Gymraeg ar lefel meithrin, cynradd ac uwchradd wedi dirywio.

Mae’r un yn wir am oedolion sy’n dysgu Cymraeg hefyd, gyda chyfanswm nifer y dysgwyr wedi disgyn o 1,411 yn 2019 i 623 yn 2020.

Fodd bynnag, mae gwersi Cymraeg ar-lein wedi denu dysgwyr o mor bell i ffwrdd ag Wrwgwái, Mecsico a’r Almaen.

Mae pobol o Gymru wedi gallu ymuno â digwyddiadau cymdeithasol ar-lein hefyd, i ymarfer eu Cymraeg gyda dysgwyr Cymraeg ym Mhatagonia.

Cafodd Prosiect yr Iaith Gymraeg ei sefydlu yn 1997, i hybu a datblygu’r iaith Gymraeg ym Mhatagonia, a bob blwyddyn mae tri swyddog datblygu iaith o Gymru’n treulio deg mis yn gweithio ym Mhatagonia gydag athrawon Cymraeg yn yr ysgolion.

Newid fformat yn “her”

Ym mis Chwefror 2020, teithiodd y swyddogion datblygu iaith i Batagonia i ddechrau ar eu lleoliadau gwaith, ond wrth i sefyllfa Covid ddatblygu bu’n rhaid i lawer o’r athrawon Cymraeg ddychwelyd i Gymru.

Yn dilyn cyngor gan y llywodraeth yno, cafodd yr ysgolion eu cau, a chafodd yr holl ddosbarthiadau Cymraeg eu symud ar-lein – gan gynnwys rhai i oedolion, a gwersi ysgol, grwpiau plant a digwyddiadau cymdeithasol.

“Bu symud y gwersi i fformat ar-lein yn her i’r tiwtoriaid a’r dysgwyr, gan nad yw isadeiledd y rhyngrwyd yn rhanbarth Chubut wedi’i ddatblygu’n ddigonol,” meddai Dr Walter Arial Brooks, Pennaeth Addysg British Council Cymru.

“Mae llawer o’r dysgwyr yn byw y tu allan i’r prif drefi ac felly maen nhw’n gorfod dibynnu ar ddata ffonau symudol i gysylltu â’r rhyngrwyd.

“Yn anffodus, oherwydd cyfyngiadau eraill, gan gynnwys diffyg sgiliau Technoleg a Gwybodaeth Cyfathrebu, prinder offer priodol a goblygiadau gofal plant, fe gollon ni lawer o ddysgwyr pan fu’n rhaid symud y gwersi ar-lein.

“Ond, mae’n galonogol iawn gweld cymaint o ddysgwyr newydd o ardaloedd y tu hwnt i Chubut yn dysgu ar-lein gyda dysgwyr Cymraeg ym Mhatagonia.”

“Cryfhau’r berthynas”

Er y dirywiad mewn niferoedd, mae’r sefyllfa wedi cryfhau’r berthynas rhwng siaradwyr Cymraeg yng Nghymru a Phatagonia, meddai Sally Ann Nicholls, un o’r athrawon.

“Cafodd holl weithgareddau Menter Patagonia eu cynnal yn ddigidol yn ystod 2020, ond fe roddodd hynny gyfle i bobl o Gymru fynychu’r nosweithiau cymdeithasol a chymryd rhan yn y gweithgareddau hefyd,” meddai Sally Ann Nicholls.

“Mae’r sefyllfa anffodus a achoswyd gan y pandemig wedi cryfhau’r berthynas rhwng siaradwyr Cymraeg yn y ddwy wlad.”