Mae menter newydd wedi ei lansio i achub rhywogaethau prin yng Nghymru.
Bydd menter Natur am Byth, sy’n cael ei redeg gan Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ceisio annog cymunedau i ailgysylltu â natur a dangos sut mae hynny’n cefnogi lles.
Maen nhw hefyd yn gobeithio gallu ail-greu cynefinoedd ac adfer tirweddau sy’n cael eu heffeithio gan newid hinsawdd.
Ymhlith yr ardaloedd yn y gogledd a’r canolbarth fydd yn rhan o’r prosiect mae Eryri, Penrhyn Llŷn, Ynys Môn, Powys a Wrecsam.
Yn rhan o’r prosiect yn y de, bydd ardaloedd Sir Benfro, Abertawe – sy’n cynnwys Penrhyn Gŵyr, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Bro Morgannwg, Caerdydd, a Gwastadeddau Gwent.
Rhywogaethau prin
Bydd nifer o rywogaethau prin yn cael eu targedu yn rhan o fenter Natur am Byth, fel y gardwenynen feinlais, yr ystlum du, a phlanhigion arctig-alpaidd Eryri.
Mae’r rhain ymysg y rhywogaethau sy’n wynebu’r perygl mwyaf o ddiflannu.
Byddan nhw’n cydweithio gyda rhai o sefydliadau cadwraeth mwyaf blaenllaw’r wlad fel RSPB Cymru a’r Gymdeithas Cadwraeth Forol ar sawl cynefin ar y tir ac yn y môr.
Recriwtio
Mae John Clark, rheolwr prosiect Natur am Byth, wedi egluro’r bwriad dros y blynyddoedd nesaf.
“Gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru, rydyn ni wedi dechrau’r broses o recriwtio tîm o ansawdd uchel i gynllunio’r rhaglen eang hon i weithio gyda chymunedau er budd rhywogaethau mwyaf bregus Cymru,” meddai.
“Ym mis Chwefror 2023, ar ddiwedd y cyfnod datblygu o 18 mis, byddwn yn cyflwyno ein cais i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i gefnogi rhaglen weithredu bedair blynedd rhwng 2023 a 2027.
“Os bydd yn llwyddiannus, dyna pryd y bydd y gwaith cadwraeth ymarferol cyffrous a’r ymgysylltu lleol yn digwydd.”
Bydd nifer o swyddi yn cael eu creu yn rhan o’r fenter hefyd yn ôl John Clark.
“Rydyn ni’n chwilio am swyddogion prosiect brwdfrydig, sy’n deall pwysigrwydd gwarchod rhywogaethau ac ymwneud â chymunedau a thirfeddianwyr, sef ceidwaid treftadaeth naturiol Cymru,” ychwanegodd.