Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu caffael cyhoeddus – sef prynu nwyddau, gwasanaethau a gwaith – gan ddweud y bydd yn hybu economi Cymru.
Dywed Peredur Owen Griffiths AoS, sy’n cynrychioli Dwyrain De Cymru, y gallai hynny greu bron i 50,000 o swyddi yng Nghymru.
Mae cynyddu caffael cyhoeddus wedi bod yn rhan o bolisi Plaid Cymru ers bron i ddegawd.
“Ers 2012, mae Plaid Cymru wedi galw’n barhaus am fwy o gaffael cyhoeddus, polisi a nodwyd gennym unwaith eto yn ein maniffesto diweddaraf,” meddai Peredur Owen Griffiths.
“Rydym am gynyddu cyfran cwmnïau Cymru o gontractau o 52% i 75% o’r gyllideb caffael cyhoeddus.
“Amcangyfrifir y byddai hyn yn creu 46,000 o swyddi ychwanegol ac yn diogelu llawer o swyddi presennol yn economi Cymru.
“Mae hynny’n fudd posibl a fyddai’n drawsnewidiol i’n heconomi leol, ein busnesau lleol a’n cymunedau lleol.
“Dylai’r Llywodraeth hon, o’r diwedd, fanteisio ar y cyfle y mae caffael cyhoeddus yn ei gyflwyno, a gobeithio y bydd y Bil hwn, pan gaiff ei gwblhau, yn gwneud hynny.”