Mae ditectifs yng Ngogledd Iwerddon sy’n ymchwilio i lofruddiaeth y newyddiadurwraig Lyra McKee wedi arestio pedwar dyn.

Cafodd Lyra McKee ei saethu’n farw gan weriniaethwyr anghydffurfiol yn Derry ym mis Ebrill 2019 wrth iddi wylio terfysg yn stâd Creggan yn y ddinas.

Y grŵp eithafol sy’n adnabod eu hunain fel y ‘New IRA’ oedd yn gyfrifol am y llofruddiaeth.

Cafodd y dynion, sy’n 19, 20, 21 a 33 oed, eu harestio yn ardal Derry fore heddiw (15 Medi) dan y Ddeddf Terfysgaeth.

Bydden nhw’n cael eu cyfweld yn Adran Troseddau Difrifol Gorsaf Heddlu Musgrave ym Melfast.

“Mae’r arestiadau hyn yn ganlyniad ymchwiliad manwl dwy flynedd o hyd i lofruddiaeth Lyra a’r digwyddiadau ddaeth o’i flaen,” meddai Ditectif Brif Uwch-arolygydd Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon, Jason Murphy.

“Mae’r gymuned leol wedi cefnogi Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon drwy gydol yr ymchwiliad hir hwn a dw i’n dymuno diolch iddyn nhw am eu cefnogaeth ac amynedd parhaus tra bod y cam hwn o’r ymchwiliad yn mynd yn ei flaen.”

Mae un dyn, Paul McIntyre, 53, o Barc Kinnego, Derry wedi cael ei gyhuddo o lofruddio Lyra McKee yn barod.

Mae dyn arall wedi’i gyhuddo am derfysgu a chyhuddiadau eraill yn gysylltiedig â digwyddiadau’r noson honno yn Creggan hefyd.