Dywed yr heddlu yng Ngogledd Iwerddon ei fod yn debygol mai grŵp gweriniaethol the New IRA oedd yn gyfrifol am saethu’n farw newyddiadurwraig yno.
Cafodd Lyra McKee, 29, ei saethu yn ei phen mewn digwyddiad y mae’r heddlu yn ei drin fel “digwyddiad terfygsol”, ynghanol helyntion yn Derry neithiwr (nos Iau) a bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.
Roedd swyddogion yr heddlu yno yn chwilio yn ardal Creggan i geisio tarfu ar ddathliadau coffa annibyniaeth Iwerddon, pan ddatblygodd sefyllfa a thaflwyd rhagor na 50 o fomiau petrol at y swyddogion. Cafodd dau gar eu dwyn a’i rhoi ar dân.
Yn ystod yr helyntion fe saethodd dyn arfog nifer o weithiau tuag at yr heddlu, yn ôl y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Mark Hamilton.
“Cafodd Lyra McKee, 29 oed, ei hanafu. Fe’i cludwyd oddi yno yn un o gerbydau’r heddlu i Ysbyty Altnagelvin, ond yn anffodus bu farw yno.
“Ryda ni nawr wedi lansio ymchwiliad llofruddiaeth yma yn y ddinas.
“Ryda ni yn credu mai gweithred dergysgol oedd hon. Ryda ni yn credu mai’r New IRA sydd fwyaf tebygol i fod yn gyfrifol. ”
Deallir fod Ms McKee wedi symud i Derry yn ddiweddar i fyw gyda’i phartner.
Roedd yn gweithio i safle newyddion Mediagazer gyda’i bencadlys yng Nghaliffornia.