Mae cadeirydd Sefydliad Tywysog Charles wedi ymddiswyddo, gan ddweud ei fod yn pryderu’n dilyn adroddiadau fod y mudiad wedi derbyn cyfraniad ariannol o fwy na £500,000 gan gyfrannwr Rwsieg.

Fe wnaeth y Tywysog Charles ysgrifennu at y gŵr busnes gan ddiolch iddo am ei gynnig hael i Sefydliad Tywysog Charles llynedd, ac awgrymu y gallen nhw gyfarfod wedi’r pandemig.

Mae pencadlys yr elusen wedi’i leoli yn yr Alban, a lansiodd Rheoleiddiwr Elusennau’r Alban ymchwiliad i’r mater yn gynharach yr wythnos hon.

Derbyniodd yr elusen £100,000 yn wreiddiol ond cafodd y swm cyfan ei gwrthod gan bwyllgor moeseg yr elusen yn dilyn pryderon am ei darddiad, yn ôl y Sunday Times.

Dywedodd y cadeirydd Douglas Connell, sydd wedi bod yn ei rôl ers mis Mawrth, y dylai ef dderbyn cyfrifoldeb “os yw’n ymddangos bod camymddwyn difrifol wedi digwydd”.

Mewn datganiad, dywedodd ei fod wedi’i syfrdanu ac yn siomedig y gallai hyn fod wedi digwydd o fewn a thu allan i’r elusen.

“Doedd gen i, nag aelodau eraill bwrdd yr ymddiriedolwyr, ddim gwybodaeth am y fath weithredoedd ac rydyn ni wedi lansio ymchwiliad annibynnol a manwl,” meddai.

“Yn fy marn i, dylai’r person sy’n cadeirio unrhyw sefydliad dderbyn cyfrifoldeb a sefyll lawr o’r rôl.”

Dywedodd llefarydd ar ran Sefydliad y Tywysog: “Mae Sefydliad y Tywysog yn deall ac yn parchu penderfyniad Mr Connell i ymddiswyddo. Hoffem ddiolch iddo am ei holl waith hyd yma a dymuno’n dda iddo.

“Bydd y Fonesig Sue Bruce, Is-gadeirydd, yn ymgymryd â rôl Cadeirydd Dros Dro ar unwaith.

“Mae Sefydliad y Tywysog yn cymryd o ddifrif yr honiadau a wnaed mewn erthyglau newyddion diweddar ac mae wedi ymrwymo i’r safonau moesegol uchaf.

“Ni fydd y newidiadau hyn i fwrdd yr Ymddiriedolwyr yn effeithio ar gwmpas nac amseriad yr ymchwiliad annibynnol trylwyr sydd eisoes ar y gweill.”

Michael Fawcett

Daw hyn wedi i gyn brif-weithredwr Sefydliad y Tywysog, Michael Fawcett, gamu o’r neilltu dros dro yn sgil honiadau ei fod wedi derbyn arian gan ŵr busnes o Saudia Arabia yn gyfnewid am anrhydedd.

Does gan Dywysog Cymru “ddim gwybodaeth” am y mater, meddai Clarence House wythnos diwethaf, ar ôl i achos gael ei gyfeirio at yr heddlu.

Fe wnaeth y grŵp Republic gysylltu â Scotland Yard gan ddweud eu bod nhw amau bod y Tywysog Charles a Michael Fawcett, un o gyn-weithwyr amlyca’r tywysog, wedi torri Deddf Anrhydeddau (Atal Camddefnyddio) 1925.

Mae Michael Fawcett wedi’i gyhuddo o addo dinasyddiaeth Brydeinig i Mahfouz Marei Mubarak bin Manhfouz o Saudia Arabia, yn ogystal â’i urddo, yn gyfnewid am roddion.

Fel llywydd yr elusen, dydi’r Tywysog Charles ddim ynghlwm â’r gwaith rheoli o ddydd i ddydd.

Mae ymchwiliad wedi’i lansio gan dîm annibynnol ar ran ymddiriedolwyr Sefydliad y Tywysog i’r cyhuddiadau yn erbyn Michael Fawcett.

Dywedodd llefarydd ar ran Clarence House bod “Tywysog Cymru yn llawn gefnogi’r ymchwiliad sydd ar y gweill yn yr elusen”.

Y Tywysog Charles

Cyn-brif weithredwr Sefydliad Tywysog Charles yn wynebu ymchwiliad gan yr heddlu

Mae Michael Fawcett yn wynebu honiadau ei fod e’n rhan o helynt yn ymwneud â chyfnewid arian am anrhydeddau