Gallai cyn-brif weithredwr Sefydliad Tywysog Charles wynebu ymchwiliad gan yr heddlu yn dilyn honiadau ei fod e ynghlwm wrth gynllwyn i gyfnewid arian am anrhydeddau.

Mae Michael Fawcett, un o gyn-weithwyr amlyca’r tywysog, wedi’i gyhuddo o addo sicrhau urddo’r biliwnydd o Saudi Arabia, Mahfouz Marei Mubarak bin Mahfouz yn farchog yn gyfnewid am roddion ariannol i Sefydliad y Tywysog.

Yn ôl y Sunday Times, fe wnaeth e roi swm sylweddol o arian i brosiectau’r tywysog yn gyfnewid am anrhydedd, ond mae’n gwadu’r honiadau.

Yn 2003, daeth ymchwiliad arall i’r casgliad nad oedd Fawcett yn euog o gamymddwyn ariannol yn ymwneud â gwerthu rhoddion brenhinol, ac fe gafodd ei benodi’n brif weithredwr Sefydliad y Tywysog yn 2018.

Wrth ganmol eu gwaith eu hunain, mae’r Sefydliad yn dweud eu bod nhw’n “cymryd yr honiadau o ddifri”.

Mae Fawcett yn gweithio i’r teulu brenhinol ers 1981, ac mae e wedi codi drwy’r rhengoedd ar hyd y blynyddoedd, lle bu’n gosod dillad allan i’r tywysog ym Mhalas Kensington bob dydd.

Tystiolaeth o drosedd

Mae Norman Baker, cyn-aelod seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol, wedi ysgrifennu at Heddlu Llundain yn gofyn i’r Comisiynydd Cressida Dick i gynnal ymchwiliad.

Yn ôl yr awdur brenhinol, mae “tystiolaeth fod trosedd wedi’i chyflawni” ac “mae angen cynnal ymchwiliad”.

Mae’n galw ar y Tywysog Charles i wneud datganiad, gan ddweud y dylai “gymryd cyfrifoldeb” am yr helynt a’i fod e’n “celu” wrth i rywbeth fynd o’i le ac yn “esgus nad yw’n adnabod y boi ac mae Michael yn syrthio ar ei fai”.

Dywed llefarydd ar ran Heddlu Llundain eu bod nhw’n “ymwybodol o adroddiadau’r wasg ac yn aros am ohebiaeth bellach mewn perthynas â’r mater hwn”.

Tywysog Cymru: dim gwybodaeth

Mae Clarence House wedi dweud nad oes gan Dywysog Cymru “unrhyw wybodaeth” am yr honiadau.

Dywedodd llefarydd ar ran y tywysog: “Nid oes gan Dywysog Cymru unrhyw wybodaeth am y cynnig honedig o anrhydeddau na dinasyddiaeth Brydeinig ar sail rhoddion i’w elusennau, ac mae’n llwyr gefnogi’r ymchwiliad sydd bellach ar y gweill gan Sefydliad y Tywysog.”

Pennaeth elusen Sefydliad y Tywysog yn camu o’r neilltu dros dro yn sgil ymchwiliad

Mae honiadau bod Michael Fawcett wedi derbyn arian yn gyfnewid am anrhydeddau