Mae un o gyn-weithwyr Tywysog Charles wedi camu o’r neilltu dros dro yn sgil ymchwiliad i honiadau ynghylch ei ymddygiad.
Mae honiadau bod Michael Fawcett, fu’n brif weithredwr Sefydliad y Tywysog, wedi derbyn arian gan y gŵr busnes Mahfouz Marei Mubarak bin Mahfouz o Saudi Arabia.
Yn ôl y Sunday Times, fe wnaeth e roi swm sylweddol o arian i brosiectau’r tywysog yn gyfnewid am anrhydedd, ond mae’n gwadu’r honiadau.
Yn 2003, daeth ymchwiliad arall i’r casgliad nad oedd Fawcett yn euog o gamymddwyn ariannol yn ymwneud â gwerthu rhoddion brenhinol, ac fe gafodd ei benodi’n brif weithredwr Sefydliad y Tywysog yn 2018.
Mae lle i gredu mai Emily Cherrington, y prif swyddog gweithredol, fydd yn camu i’r rôl am y tro, ac mae Rheoleiddiwr Elusennau’r Alban wedi cael gwybod gan mai dyna lle cafodd yr elusen ei sefydlu.
Wrth ganmol eu gwaith eu hunain, mae’r Sefydliad yn dweud eu bod nhw’n “cymryd yr honiadau o ddifri”.
Mae Fawcett yn gweithio i’r teulu brenhinol ers 1981, ac mae e wedi codi drwy’r rhengoedd ar hyd y blynyddoedd, lle bu’n gosod dillad allan i’r tywysog ym Mhalas Kensington bob dydd.