Mae elusennau yng Nghymru’n rhybuddio rhag cyflwyno cardiau adnabod er mwyn bwrw pleidlais mewn etholiadau.

Mae 19 o grwpiau sy’n cynnwys ymgyrchwyr, elusennau a grwpiau cymdeithasau sifil wedi dod ynghyd i ddweud bod perygl y gallai cynlluniau Llywodraeth Prydain gau miloedd o bobol allan o’r broses, gan wanhau hawliau’r rheiny sydd eisoes ar gyrion cymdeithas.

Ymhlith y grwpiau mae ERS Cymru, Llamau, Anabledd Cymru a Chlwb Bechgyn a Merched Cymru.

Mae disgwyl i Lywodraeth Geidwadol Prydain gyflwyno’r ddeddfwriaeth yn San Steffan yr wythnos hon, a hynny er gwaetha’r gwrthwynebiad chwyrn a fu iddi.

Yn ôl ffigurau’r Llywodraeth, gallai hyd at ddwy filiwn o bobol fethu â bwrw eu pleidlais yn sgil y cynlluniau.

Yn ôl eu hymchwil, does gan 2% o’r boblogaeth ddim cerdyn adnabod, ac nad oes gan 4% gerdyn adnabod â llun arno, sy’n golygu y gallen nhw orfod gadael yr orsaf bleidleisio ar ddiwrnod etholiadau heb fwrw eu pleidlais.

Yn ôl yr ymgyrchwyr, mae pobol o gefndiroedd difreintiedig yn llai tebygol o fod â cherdyn adnabod o unrhyw fath, gan gynnwys pobol ddiwaith (11%), y sawl sy’n rhentu eiddo gan awdurdod lleol (13%) neu gymdeithas da (12%), yn ogystal â phobol ag anableddau (8%).

Yn ôl ymchwil gan yr Adran Drafnidiaeth, mae gan 76% o bobol wyn ond dim ond 53% o bobol ddu drwydded yrru, tra bod nifer y bobol ifanc sydd â thrwydded yrru wedi gostwng i’w lefel isaf.

Ymateb ERS Cymru

“Ar adeg pan ddylen ni fod yn meddwl am sut i ddileu’r rhwystrau i’n democratiaeth, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn hytrach yn cyflwyno polisi a allai adael miliynau o bobol wedi’u cau allan,” meddai Jess Blair, cyfarwyddwr ERS Cymru.

“Bydd y ddeddfwriaeth hon yn effeithio’n anghymesur ar y bobol sydd fwyaf ar y cyrion yn ein cymdeithas sy’n fwy tebygol o fod heb y cerdyn adnabod angenrheidiol sydd mewn gwirionedd yn eu cau nhw allan o’r blwch pleidleisio.

“Dylen ni fod yn ystyried mesurau i annog pobol i bleidleisio yn hytrach na buddsoddi arian trethdalwyr mewn mesurau drud i’w troi nhw i ffwrdd.”

Mae Anabledd Cymru hefyd wedi mynegi pryderon tebyg am gau pobol allan.

“Rydym yn bryderus iawn am y mesurau i gyflwyno cerdyn adnabod pleidleiswyr yn atal rhai pobol anabl rhag gallu pleidleisio,” meddai Megan Thomas, Swyddog Polisi ac Ymchwil yr elusen.

“Mae angen i wneud y system bleidleisio’n hygyrch i gynifer o bobol â phosib fod yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon, ac nid rhoi rhagor o rwystrau yn eu lle.”

Yn ôl The Democracy Box, mae’r cynlluniau’n “anghyfiawn”.

“Wedi gweithio gyda 40 o bobol ifanc ledled Cymru fel rhai sy’n cyd-greu ar The Democracy Box ac wedi cynnal arolwg, cyfweld a siarad â channoedd yn rhagor gan gynnwys grwpiau ffocws dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf, rwy’n glir iawn y bydd cyflwyno rhagor o rwystrau i ymgysylltu a chyfranogiad democrataidd, nad yw’n gyfiawn yn nhermau twyll etholiadol, yn dadwneud cryn dipyn o’r gwaith da a wnaed yn nhermau cynyddu cyfranogiad democrataidd, ac yn cau rhagor o bobol allan, yn tynnu braint ac yn gosod pellter i gyfran helaeth o’r boblogaeth gan gynnwys pobol ifanc a’r rhai sy’n pleidleisio am y tro cyntaf,” meddai Yvonne Murphy, sylfaenydd The Democracy Box.