Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i ddynes gael ei chanfod yn anymwybodol mewn eiddo yn Nhonyrefail yn Rhondda Cynon Taf.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc cyn 1 o’r gloch brynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Medi 4).
Mae dynes 33 oed yn yr ysbyty ag anafiadau difrifol.
Mae dyn 36 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol.