Roedd y brawychwr a gafodd ei saethu’n farw gan yr heddlu ar ôl trywanu saith o bobol mewn archfarchnad yn ninas Auckland yn Seland Newydd wedi’i amau o dwyll yn ymwneud â mewnfudo, yn ôl swyddogion y wlad.

Mae rhagor o fanylion am Ahamed Samsudeen bellach yn hysbys yn dilyn y digwyddiad ddydd Gwener (Medi 3), wrth i gyflwr nifer o bobol ddechrau gwella.

Mae tri o bobol yn dal mewn uned gofal dwys ag anafiadau difrifol ond maen nhw mewn cyflwr sefydlog erbyn hyn, ac mae cyflwr un ohonyn nhw wedi gwella.

Mae person arall mewn cyflwr difrifol, tra bod tri arall wedi cael mynd adref.

Ahamed Samsudeen

Aeth y Mwslim Tamil, Ahamed Samsudeen, sydd bellach yn 32 oed, i Seland Newydd ddeng mlynedd yn ôl gan ddefnyddio fisa myfyriwr.

Fe wnaeth e gais am statws ffoadur ar sail erledigaeth yn Sri Lanca, lle daeth rhyfel cartref i ben yn 2009 wrth i Tamiliaid gael eu trechu.

Cafodd ei gais ei wrthod gan yr awdurdodau yn Seland Newydd, ond fe enillodd ei apêl gan sicrhau’r hawl i fyw yno’n barhaol yn 2014.

Fe ddaeth yr heddlu i wybod am ei bresenoldeb ar-lein ddwy flynedd yn ddiweddarach ac erbyn y flwyddyn ganlynol, roedd asiantiaid mewnfudo yn gwybod ei fod e’n awyddus i deithio i Syria i ymuno â Daesh, neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’ ac fe ddechreuon nhw ei fonitro.

Yn 2018, cafodd ei garcharu am fod â fideos Daesh a chyllyll yn ei feddiant a’r flwyddyn ganlynol, fe gollodd ei statws ffoadur ar ôl i’r awdurdodau ddod i wybod am dwyll a’r gred oedd iddo ffugio dogfennau mewnfudo.

Ond fe apeliodd unwaith eto er mwyn cael aros yn Seland Newydd ac fe gafodd e adael y carchar er i’r awdurdodau geisio ei gadw dan glo.

Cafodd ei fonitro gan yr heddlu rhag ofn iddo ymosod.

Newid yn y gyfraith

Mae Jacinda Ardern, prif weinidog Seland Newydd, yn dweud y bydd ei llywodraeth yn newid y gyfraith er mwyn cynyddu’r gosb am gynllwyniau brawychol.

Llwyddodd plismyn cudd i saethu Samsudeen y tu allan i’r archfarchnad, funudau ar ôl iddo geisio ymosod arnyn nhw â chyllell.

Roedd disgwyl i wrandawiad apêl gael ei gynnal y mis yma cyn i gyfyngiadau Covid-19 olygu bod rhaid ei ohirio.

Yn ôl Ardern, fe fu’r achos yn un “rhwystredig”.