Mae dyn wedi cael ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd ag anafiadau difrifol ar ôl cael ei daro gan gar ger Castell-nedd.

Fe ddigwyddodd ar ffordd A465 i gyfeiriad y de rhwng Castell-nedd a Llandarcy am oddeutu 2.45 fore heddiw (dydd Sul, Medi 5).

Cafodd y dyn ei daro gan gar Ford Fiesta, ac mae disgwyl i’r ffordd fod ynghau am gryn amser wrth i ymchwiliad gael ei gynnal.

Dylai unrhyw un â deunydd dashcam gysylltu â Heddlu’r De ar 101.