Mae’r gwasanaeth tân yn ceisio diffodd fflamau ar safle ailgylchu yn sir Torfaen.

Cawson nhw eu galw i Capital Valley Plastics ym Mlaenafon am oddeutu 9.40 neithiwr (nos Sadwrn, Medi 4).

Cafodd trigolion lleol gyngor i aros yn eu cartrefi ac i gau eu drysau a’u ffenestri oherwydd y mwg.

Mae lle i gredu bod y tân dan reolaeth erbyn hyn.