Mae teuluoedd a goroeswyr y tân yn fflatiau Tŵr Grenfell yn Llundain yn dweud mai nhw, ac nid Llywodraeth Prydain, ddylai benderfynu pryd i ddymchwel yr adeilad.

Mae’r Sunday Times yn adrodd bod disgwyl cyhoeddiad gan weinidogion y bydd yn cael ei ddymchwel yn sgil pryderon am ddiogelwch yr adeilad gan arbenigwyr strwythurol.

Ond mae’r teuluoedd a’r goroeswyr yn dweud eu bod nhw wedi cael sicrwydd yn y gorffennol fod yr adeilad yn ddiogel a bod modd ei gadw yno cyhyd ag sydd angen.

Yn ôl Llywodraeth Prydain, does dim penderfyniad hyd yn hyn.

Mae ymgyrchwyr yn gofyn sut all yr adeilad gael ei ddymchwel cyn diwedd y broses gyfreithiol, gan ychwanegu bod “cyfiawnder yn bwysig i ni i gyd”, ac maen nhw’n cyhuddo’r Llywodraeth o fethu â gweithredu er mwyn atal y fath drychineb eto.

Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain eu bod nhw’n deall ei fod yn “benderfyniad pwysig a sensitif” ac maen nhw’n dweud y gallai gymryd hyd at flwyddyn i wneud penderfyniad terfynol am ddyfodol yr adeilad.

Bu farw 72 o bobol yn y tân fis Mehefin 2017.