Mae negeseuon sydd wedi’u rhyddhau i’r wasg yn awgrymu bod Downing Street yn ceisio cau Nicola Sturgeon allan o uwchgynhadledd Cop26.
Yn ôl y negeseuon ac adroddiadau yn The Independent, mae pryderon y bydd hi’n manteisio ar y cyfle i hybu annibyniaeth i’r Alban.
Yn ôl nodiadau o gyfarfod a negeseuon ar WhatsApp sydd wedi’u gweld, mae ymdrechion ar y gweill i geisio lleihau ei rhan yn y digwyddiad er mwyn osgoi sefyllfa lle gallai’r digwyddiad fod yn “hysbyseb” ar gyfer annibyniaeth i’r Alban.
Yn ôl adroddiadau, mae Nicola Sturgeon yn dweud bod unrhyw un sy’n gadael i wleidyddiaeth atal gwleidyddion rhag mynd i’r afael â newid hinsawdd yn esgeuluso’u dyletswyddau.
Dywedodd ar Twitter mai’r “cyfan sy’n bwysig” yw fod modd bodloni Cytundeb Paris i gyfyngu cynhesu byd eang i 1.5 gradd.
Mae disgwyl i’r uwchgynhadledd gael ei chynnal yn Glasgow am bythefnos o Hydref 31, ac i arweinwyr gwleidyddol nifer o wledydd y byd fod yno.
Yn ôl Boris Johnson, dylid cynnwys arweinwyr y gwledydd datganoledig eraill yn yr uwchgynhadledd er mwyn “niwtraleiddio” rôl prif weinidog yr Alban, ac mae disgwyl i faner yr Undeb gael ei chyhwfan gymaint â phosib.