Cafodd pump o bobol eu hanafu’n ddifrifol mewn gwrthdrawiad rhwng Dolgellau a Rhydymain brynhawn ddoe (dydd Sul, Medi 5).

Fe ddigwyddodd toc ar ôl 3yp pan darodd Audi A3 lliw gwyn a VW Tiguan lliw gwyn yn erbyn ei gilydd ar ffordd A494.

Bu’n rhaid cau’r ffordd rhwng y Bala a Dolgellau am rai oriau.

Mae’r heddlu wedi dechrau ymchwiliad, ac maen nhw’n apelio am dystion i’r digwyddiad.