Mae pump o bobol yn yr ysbyty yn dilyn ymosodiad honedig yng Nghaerdydd.
Cafodd yr heddlu eu galw i’r digwyddiad yng nghanol y ddinas am oddeutu 2.45 brynhawn ddoe (dydd Sul, Medi 5).
Fe wnaeth y Gwasanaeth Ambiwlans ymateb i’r digwyddiad hefyd.
Fe wnaethon nhw anfon tîm ymateb yno, gan gludo dau o bobol i’r ysbyty.
Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth, a dylai unrhyw un â deunydd ffôn symudol neu dashcam gysylltu â nhw ar 101.