Mae’r Taliban wedi cipio grym yn y dalaith olaf yn Affganistan, sy’n golygu eu bod nhw bellach yn rheoli’r wlad gyfan.

Panjshir i’r gogledd o’r brifddinas Kabul oedd y dalaith olaf i ildio i’r drefn newydd, a’r unig dalaith nad oedd y Taliban wedi’i chipio fis diwethaf.

Aeth miloedd o filwyr i mewn i’r dalaith dros nos, yn ôl llygad dystion.

Mae’r Taliban bellach wedi cyhoeddi datganiad yn dweud mai nhw sy’n rheoli Panjshir.

Arweinydd y gwrthryfelwyr oedd yn ceisio dal eu gafael ar y dalaith oedd Amrullah Saleh, y cyn-ddirprwy arlywydd, a mab Ahmad Shah Massoud a gafodd ei ladd ddyddiau’n unig cyn ymosodiadau brawychol 9/11 yn yr Unol Daleithiau.

Yn y gorffennol, mae gwrthryfelwyr wedi llwyddo i wrthsefyll y Sofietiaid yn y 1980au a’r Taliban ddegawd yn ddiweddarach.

Dydy Amrullah Saleh, oedd wedi datgan mai fe oedd yr arlywydd ar ôl i’r Arlywydd Ashraf Ghani ffoi, ddim wedi gwneud datganiad eto.

Aeth y Taliban i mewn i ranbarth Rokha neithiwr (nos Sul, Medi 5), a hynny ar ôl i drafodaethau fod yn aflwyddiannus gyda nifer o arweinwyr y rhai fu’n brwydro yn erbyn y Taliban yn cael eu lladd.

Ffoaduriaid

Yn y cyfamser, mae swyddogion yn Affganistan yn dweud nad yw nifer o awyrennau’n cludo ffoaduriaid o’r wlad wedi gallu gadael ers rhai diwrnodau.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd pam fod oedi, ond mae pryderon fod y Taliban yn cadw pobol yn wystlon.

Mae pwysau ar yr Unol Daleithiau erbyn hyn i helpu’r rhai sy’n dal yn y wlad, gyda nifer ohonyn nhw heb basbort neu fisa.

Yn ôl un o bwyllgorau’r Unol Daleithiau, mae Americanwyr ymhlith y rhai sy’n ceisio gadael y wlad a dydy’r Taliban ddim yn gadael i’r awyrennau adael y maes awyr.

Roedd y Taliban wedi cynnig sicrwydd y byddai unrhyw un oedd yn dymuno gadael y wlad yn cael gwneud hynny’n ddiogel, ond mae lle i gredu bellach fod hyd at chwe awyren lawn yn dal yn y wlad ac yn methu gadael am y tro.