Fe wnaeth honiadau fod plant yn cam-drin plant eraill yng Nghymru a Lloegr ddyblu yn y ddwy flynedd hyd at 2019.
Yn ôl ymchwiliad gan raglen Panorama y BBC, mae ystadegau’r heddlu’n dangos bod 16,102 o achosion o gam-drin plant yn rhywiol gan bobol dan 18 oed wedi cael eu hadrodd iddyn nhw rhwng Ebrill 2018 a Mawrth 2019.
Roedd hyn yn gynnydd o’r 7,866 o honiadau yn 2016-17. Bu 14,915 o achosion yn 2019-20.
Yn ôl y BBC, fe wnaeth 34 allan o 43 o heddluoedd Cymru a Lloegr ymateb i’r cais am wybodaeth yn gofyn am nifer yr adroddiadau o droseddau rhyw, gan gynnwys treisio ac ymosodiadau rhyw, lle’r oedd y dioddefwr a’r troseddwr dan 18 oed.
Cafodd y drosedd ar-lein o rannu lluniau neu fideos rhywiol preifat eu cynnwys yn yr ystadegau.
Roedd y troseddwr honedig yn 10 oed neu iau mewn 10% o’r achosion, a bechgyn oedd 90% o’r camdrinwyr honedig.
Merched oedd wyth ymhob deg dioddefwr honedig.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y BBC fod canllawiau wedi’u cyflwyno er mwyn cefnogi ysgolion i greu awyrgylch ddysgu ddiogel i blant.
“Rydyn ni wedi cryfhau’r [canllawiau] bob blwyddyn, gwybodaeth benodol ar gyfer cadw plant yn ddiogel ac addysg rhag cam-drin rhywiol,” meddai’r Aelod Seneddol Vicky Ford, Gweinidog Plant a Theuluoedd Lloegr, wrth Panorama.
Ychwanegodd fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi lansio partneriaethau gwarchod plant rhwng ysgolion, yr heddlu a’r gwasanaethau cymdeithasol i helpu ysgolion i fynd i’r afael â’r broblem.