Byddai cyplau o’r un rhyw yn medru cael bendithio eu priodas neu bartneriaeth sifil yn eglwysi’r Eglwys yng Nghymru pe bai deddfwriaeth newydd yn cael ei phasio’r wythnos hon.
Mae Corff Llywodraethol yr Eglwys yn cyfarfod heddiw (dydd Llun, Medi 6) i ystyried y Bil i awdurdodi gwasanaeth bendithio rhwng cyplau o’r un rhyw.
Mae’r Bil yn cynnig bod y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio’n arbrofol am bum mlynedd, a bydd yn fater i glerigwyr unigol benderfynu a ydyn nhw’n dymuno arwain ai peidio.
Gan na all cyplau o’r un rhyw briodi mewn eglwys, byddai’r gwasanaeth ar gyfer y fendith yn unig.
Cafodd y Bil ei gyflwyno gan yr Esgobion, yn dilyn arwydd gan aelodau’r Corff Llywodraethol ei bod hi’n “anghynaladwy yn fugeiliol” i’r Eglwys beidio gwneud darpariaeth ffurfiol ar gyfer cyplau o’r un rhyw.
‘Cam yn y cyfeiriad cywir’
Yn y Memorandwm Esboniadol, mae’r esgobion yn cydnabod fod y Bil yn un dadleuol, ond maen nhw’n ei ddisgrifio fel “cam yn y cyfeiriad cywir at edifeirwch am hanes yn yr Eglwys o felltithio ac erlid hoywon a lesbiaid, a’u gorfodi i fywyd o ofn, anonestrwydd ac weithiau rhagrith, a’u heithrio rhag byw bywydau cyhoeddus ac onest a rhannu partneriaeth ymrwymol”.
“Byddai cymeradwyo’r ddefod hon yn datgan bod yr Eglwys yng Nghymru yn derbyn bod ymrwymiad cariadus a ffyddlon dau unigolyn o’r un rhywedd sy’n dyheu am gydymgeledd a ffyddlondeb gydol eu hoes, ac sydd wedi gwneud ymrwymiad mewn partneriaeth sifil neu briodas, yn haeddu cael eu derbyn gan yr Eglwys trwy ofyn am fendith Duw ar eu hymrwymiad,” meddai’r Memorandwm.
Mae’r esgobion yn annog aelodau’r Corff Llywodraethol i drafod y Bil mewn modd parchus ac urddasol, ac maen nhw wedi cyhoeddi cyfres o Egwyddorion Bugeiliol i lywio pobol tuag at drafodaeth feddylgar ac ystyriol.
“Ni all fod unrhyw le i geisio tanseilio barn a gaiff ei dal yn ddiffuant. Ni ddylem ychwaith geisio cerdded ymaith o’n gilydd,” meddai’r esgobion.
“Mae ein hundeb yng Nghrist wrth galon ein bywyd ac mae cadwynau a chymeriad ein bedydd yn ein dal gyda’n gilydd; gan rannu ymrwymiad i’n gilydd wrth i ni gyda’n gilydd geisio Teyrnas Dduw. Gobeithiwn y bydd y deunyddiau hyn yn ysgogi’r ansawdd hwn o ymgysylltu.”
Bydd y Bil yn cael ei drafod ar ddiwrnod cyntaf cyfarfod y Corff Llywodraethol yng Nghanolfan Gonfensiynau Rhyngwladol Cymru yng Nghasnewydd, a’i ffrydio’n fyw ar sianel YouTube a gwefan yr Eglwys yng Nghymru.
Mae’r eitemau eraill ar yr agenda yn cynnwys diweddariad ar gynnydd yr Eglwys yn ei tharged sero carbon, a thrafodaeth ar sut ddylai’r Eglwys adael y pandemig.
Fe fydd ail ddiwrnod y cyfarfod ddydd Mercher (8 Medi) yn digwydd ar-lein yn unig, a’i ffrydio’n fyw.