Mae ymgyrchwyr yn erbyn hysbysebion gamblo yn dechrau ar daith heddiw (dydd Llun, Medi 6) i godi ymwybyddiaeth am effeithiau’r hysbysebion ar bobol a phlant.

Gan ddechrau yn Abertawe, bydd aelodau’r Gynghrair yn Erbyn Hysbysebion Gamblo yn ymweld â nifer o ddinasoedd yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn ystod yr wythnos.

O Stadiwm Swansea.com, bydd taith Park The Bus yn mynd yn ei blaen i’r Senedd yng Nghaerdydd am 11yb.

Fory (dydd Mawrth, Medi 7) a dydd Mercher (Medi 8), bydd yn teithio i Fanceinion, Caeredin a Birmingham, cyn ymweld â sawl pencadlys yn Llundain, gan gynnwys Cymdeithas Bêl-droed Lloegr, Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, San Steffan a phencadlys y Blaid Lafur, ddiwedd yr wythnos.

Wrth ymweld â chyrff ledled y Deyrnas Unedig, bydd cynrychiolwyr o fudiadau sy’n aelodau o’r Gynghrair yn ymgyrchu’n heddychlon gan geisio annog yr awdurdodau, a’r cyhoedd, i gefnogi eu hymgyrch i roi’r gorau i hysbysebu, hyrwyddo a noddi gamblo.

Ar hyd y daith, bydd pobol sydd wedi dioddef yn sgil gamblo yn ymuno â’r cynrychiolwyr, ac yn rhannu eu straeon ac yn esbonio pwysigrwydd cael gwared ar hysbysebion gamblo.

‘Am gyfle’

Nick Phillips, sylfaenydd Gambling Guarding CIC, sy’n cynnig cefnogaeth a gwasanaethau addysgol i bobol sy’n dioddef yn sgil dibyniaeth ar gamblo, sy’n gyrru’r bws.

Mae’r Gambling Guarding CIC yn un o’r mudiadau sy’n rhan o’r Gynghrair yn Erbyn Hysbysebion Gamblo, ac mae Nick Phillips, sy’n byw yn Abertawe, wedi gwella ar ôl bod yn gaeth i gamblo ers ugain mlynedd.

Arweiniodd ei ddibyniaeth at gael ei wneud yn fethdaledig ddwywaith, ac at geisio rhoi terfyn ar ei fywyd ddwywaith.

“Fe wnes i feddwl am gyfle sydd yma, fel rhywun sy’n dod dros ddibyniaeth i gamblo,” meddai.

“Yma yn Abertawe ar gyfer y diwrnod cyntaf, gweld pobol yn troi fyny mewn tacsis, yr haul yn tywynnu, gweld eu mudiadau nhw, mae e’n eithaf pwerus.

“Dydi hon ddim yn stori am ychydig o bobol sydd wedi gwella o ddibyniaeth ar gamblo, ond mae hysbysebion gamblo yn benodol yn chwarae rhan wrth lithro’n ôl at gamblo.

“Mae yna 450,000 o blant yn gamblo, ac allan o’r rheiny mae 50,000 yn gaeth.

“Dw i’n gwybod pa effeithiau mae hysbysebion gamblo yn eu cael, felly i ni mae’n bwerus.

“Os yw pobol eisiau dod atom ni, am ba bynnag reswm, plîs dewch lawr atom ni.”