Mae dadansoddiad newydd yn dangos mai Clwyd yw’r sir sydd â’r nifer fwyaf o safleoedd tirlenwi gwastraff gwenwynig yng Nghymru, ond mai Caerdydd yw’r ardal â’r nifer fwyaf o safleoedd fesul cilomedr sgwâr.
Yn ôl data Uswitch.com, mae yna 84 o safleoedd tirlenwi gwastraff gwenwynig yng Nghlwyd.
Mae’r nifer “syfrdanol” o safleoedd yn amlygu’r amrywiaeth o broblemau sy’n gallu codi yn sgil y safleoedd hyn, yn ôl arbenigwr ynni gyda Uswitch.
Mae’r dystiolaeth hefyd yn dangos bod niferoedd uchel o safleoedd tirlenwi gwastraff gwenwynig yn siroedd Dyfed (68), Gwent (59), a De Morgannwg (52).
Mae’r ystadegau hefyd yn dangos bod yna un safle tirlewni gwastraff gwenwynig ym mhob 5.98 cilomedr sgwâr yng Nghaerdydd.
Sir y Fflint sydd â’r ail nifer fwyaf o safleoedd fesul cilomedr sgwâr, gydag un ym mhob 9.06 cilomedr sgwâr, a Blaenau Gwent yn drydydd gydag un ym mhob 10.87 cilomedr sgwâr.
Mae’r data yn dangos bod 16 safle yng Ngwynedd, sef un bob 163.73 cilomedr sgwâr, ac o ran niferoedd y safleoedd fesul cilomedr sgwâr, Ceredigion ac Ynys Môn sydd â’r niferoedd isaf.
Yn ôl yr ystadegau, mae chwe safle yng Ngheredigion (un ym mhob 301.12 cilomedr sgwâr), a dwy ar Ynys Môn (un ym mhob 373.89 cilomedr sgwâr).
“Amrywiaeth o broblemau”
“Mae’r nifer syfrdanol o uchel o safleoedd tirlewni gwastraff gwenwynig dros y wlad yn amlygu’r amrywiaeth o broblemau sy’n gallu cael eu hachosi gan y safleoedd tirlenwi hyn,” meddai Will Owen, arbenigwr ynni Uswitch.com.
“Cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw helpu i’w hadnabod nhw a threfnu eu bod nhw’n cael eu clirio.
“Dydi rhai o’r safleoedd tirlenwi hŷn heb gael eu leinio cyn i’r gwastraff gael ei roi yno, yn wahanol i safleoedd modern, sy’n golygu y gall cemegau ddianc.”