Mae Drop Bear Beer Co., bragdy di-alcohol Cymreig yn Abertawe, wedi lansio amrywiaeth o ganiau, wrth iddyn nhw symud i ffwrdd o boteli fel rhan o’u hymrwymiad i’r amgylchedd.
Mae penderfyniad Drop Bear i ddefnyddio caniau 330ml yn rhan o ymgyrch i fod yn fragdy ‘B Corp’ cyntaf Cymru.
Wedi’i sefydlu gan Joelle Drummond a Sarah McNena, mae Drop Bear yn falch o fod yn gynaliadwy.
Ymhlith eu mentrau, mae’r cwmni’n defnyddio cerbyd ynni 100% adnewyddadwy, deunydd pacio di-blastig, crysau-T cotwm organig, ac mae’n gweithredu swyddfa ddi-bapur.
A thrwy gefnogi nifer o brosiectau ledled y byd, mae Drop Bear wedi gwrthbwyso 60.08 tunnell o nwyon tŷ gwydr (CO2e) ac wedi plannu dros 730 o goed.
“Mae Drop Bear yn angerddol am yrru newid cadarnhaol yn y byd hwn,” meddai Joelle Drummond.
“Gall busnesau o unrhyw siâp, maint neu ddiwydiant wneud eu rhan a dylent wneud eu rhan.
“Trosglwyddo i ganiau o boteli yw’r cam naturiol nesaf yn nhaith gynaliadwyedd Drop Bear wrth i ni barhau â’n twf cyflym.
“Mae gan alwminiwm gyfradd ailgylchu uwch na gwydr a gellir pentyrru mwy o ganiau ar balmant, caiff milltiroedd bwyd eu harbed, gan leihau ein hôl troed carbon ymhellach.
“Mae Drop Bear wedi bod â safiad cryf ar gynaliadwyedd o’r dechrau un, ac mae hyn yn rhywbeth y mae Sarah a minnau wedi bod eisiau ei wneud ers tro bellach, felly rydym yn gyffrous iawn i allu gwneud y cam hwn o’r diwedd.
“Mae poblogrwydd cynyddol caniau ymhlith defnyddwyr hefyd yn ffactor allweddol i’w ystyried wrth i ni dyfu, am gynifer o resymau gwahanol – mae defnyddwyr am gael caniau!”