Mae pump o bobol yn yr ysbyty wedi digwyddiad mewn ffatri prosesu cig yn Ynys Môn.
Yn ôl y sôn, roedd y sylwedd gwenwynig amonia wedi achosi niwed i unigolion yn safle ffatri 2 Sisters yn Llangefni.
Roedd Swyddog Diogelu’r Amgylchedd wedi ei alw i’r digwyddiad, yn ogystal â’r gwasanaethau brys fore heddiw (dydd Llun, Medi 6).
Mewn datganiad, fe ddywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu bod nhw wedi eu galw i’r digwyddiad.
“Cafodd dau griw o Gaergybi, yr Uned Diogelu’r Amgylchedd o Gaergybi a chriw o Fangor eu galw i ffatri prosesu cig ar Ffordd yr Ystâd Ddiwydiannol, Llangefni am 10:07 o’r gloch y bore yma i ddelio ag amheuaeth o ollyngiad Amonia,” meddai.
“Cafodd naw oedd wedi’u hanafu eu trin yn y fan a’r lle ac mae pump bellach wedi cael eu cludo i’r ysbyty gan gydweithwyr o Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i gael triniaeth bellach.”
Does dim gwybodaeth bellach ar hyn o bryd am gyflwr y pum unigolyn.