Mae Canolfan Brailsford, Canolfan Chwaraeon Prifysgol Bangor, wedi ei dychwelyd i ddwylo’r Brifysgol, ar ôl i’r adeilad gael ei ddefnyddio fel Ysbyty Enfys ers Ebrill 1 y llynedd, ynghyd â Venue Cymru a Chanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy.

Bu nifer o sefydliadau yn rhan o’r broses o newid defnydd, gan gynnwys Prifysgol Bangor, Bwrdd Iechyd Ysbyty Betsi Cadwaladr, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, y Royal Irish Regiment, Coleg Menai ac Evershed Sutherlands LLP.

Cafodd Canolfan Brailsford ei hagor i’r cyhoedd unwaith eto ddydd Sadwrn (Medi 4), gyda Diwrnod Agored yn rhad ac am ddim wedi’i gynnal.

Yn ystod y cyfnod pan nad oedd posib defnyddio Canolfan Brailsford fel canolfan chwaraeon, roedd campfa dros dro ar gael ar safle Ffriddoedd yn unol â chyfyngiadau Covid-19.

“Dyletswydd a braint oedd i Brifysgol Bangor gyfrannu at warchod iechyd a lles y gymuned yn ystod pandemig Covid,” meddai’r Athro Iwan Davies, Is-ganghellor Prifysgol Bangor.

“Mae’n debyg mai cynnig ein Canolfan Chwaraeon oedd un o’n cyfraniadau ffisegol mwyaf amlwg.

“Roedd y cydweithio rhwng cymaint o asiantaethau gwahanol i drawsnewid yr adeilad mewn cyn lleied o amser yn dyst i’r hyn y gellir ei gyflawni.”

‘Diolchgar’

“Diolch i ymdrechion  ein cymunedau, nid oedd angen defnyddio Ysbyty Enfys fel ysbyty,” meddai’r Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a oedd yn bresennol ar gyfer ailagoriad Canolfan Brailsford fel canolfan chwaraeon.

“O fis Rhagfyr 2020, defnyddiwyd yr adeilad i gefnogi’r ymgyrch brys i rannu rhaglen brechu COVID 19 gan ddosbarthu dros 90,000 brechlyn o’r safle.

“Mae’n briodol ein bod wedi gweld gwaith tîm ar ei orau yng Nghanolfan Brailsford, rydym yn y Bwrdd Iechyd yn ddiolchgar dros ben.”