Byddai ailsefydlu cangen Unesco yng Nghymru yn fanteisiol am amryw resymau, gan gynnwys wrth hyrwyddo gwybodaeth am weithgareddau’r corff ac adeiladu pontydd rhyngwladol, yn ôl y cyn-ymgynghorydd diwylliannol Allan Wynne Jones wrth siarad â golwg360.

Mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i helpu i adfywio rhwydwaith yng Nghymru, ac wedi bod wrthi ers blynyddoedd yn ceisio aildanio brwdfrydedd mewn cael pwyllgor i Gymru.

Roedd gan Gymru Bwyllgor Unesco am dros 60 mlynedd, nes i’r Pwyllgor gael ei ddiddymu heb eglurhad yn 2011.

Gydag ardaloedd llechi Gwynedd newydd dderbyn dynodiad Safle Treftadaeth y Byd Unesco, mae Allan Wynne Jones yn dweud mai manteision twristaidd yn unig mae nifer o bobol yn ei gweld drwy’r dynodiadau.

Neges sylfaenol Unesco yw fod angen addysgu pobol am heddwch, ac er gwaethaf eu hamcanion “uchelgeisiol, moesol a rhyngwladol”, mae pobol yn colli golwg ar amcanion y corff, meddai.

‘Ffurfio pontydd’

Yn ôl Allan Wynne Jones, byddai adfywio rhwydwaith i Gymru yn cymell pobol i edrych tu allan i Gymru, ac i geisio creu byd gwell drwy hyrwyddo heddwch.

“Fyddai e bendant yn gyfrwng i Unesco yn ganolog i ddosbarthu gwybodaeth am weithgareddau Unesco drwy’r gymdeithas yng Nghymru, yn enwedig y neges sylfaenol sydd gyda nhw bod angen addysgu pobol am heddwch,” meddai wrth golwg360.

“Hwnna, i mi, yw’r brif elfen.

“Ond byddai e hefyd yn gyfrwng i sicrhau bod Cymru’n cael chwarae teg o ran Unesco, a byddai e hefyd yn gyfle i Gymru i gyfrannu yn anuniongyrchol neu’n uniongyrchol tuag at ddatblygu polisi ar ran Unesco.”

Cymro arall, y Parchedig Gwilym Davies, oedd yn gyfrifol am ddrafft gweithredol cyntaf cyfansoddiad Unesco, ac mae’n dweud mai dyma’r unig un o asiantaethau’r Cenhedloedd Unedig sydd â phresenoldeb sylweddol ar lawr gwlad yng Nghymru.

“Mae e’n gorff arwyddocaol iawn yn rhyngwladol oherwydd mai hwn yw’r unig gorff statudol rhyngwladol sydd â chysylltiadau ar lawr gwlad yng Nghymru,” meddai.

“Mewn cyfnod lle rydyn ni’n brin, ac yn prinhau ein cysylltiadau gyda’r byd oherwydd Brexit, mae Unesco yn gallu bod yn gyfrwng i ni allu ffurfio pontydd efo cymdeithasau a phobol mewn gwledydd eraill os defnyddiwn ni’r peth yn gall.”

Mae Allan Wynne Jones wedi eistedd ar fyrddau Biwro Ewropeaidd yr Ieithoedd Llai yn Nulyn a Brwsel, Sefydliad Gwarchod Ieithoedd Bregus, a Phwyllgor Dyn a’r Biosffer y Deyrnas Gyfunol Unesco.

Fe hefyd oedd cadeirydd cyntaf Partneriaeth Biosffer Dyfi Unesco, ac mae e bellach wedi ymddeol ac yn byw ar Ynys Môn.

Mae Unesco yn annog eu comisiynau mewn gwladwriaethau sy’n aelodau i greu rhwydweithiau ar lawr gwlad, felly byddai’r syniad o greu pwyllgor yng Nghymru i hyrwyddo gwaith Unesco yn cyd-fynd â meddylfryd y corff, yn ôl Allan Wynne Jones.

“Dyw’r hyn dw i’n ofyn am ddim allan o drefn o ran Unesco eu hunain, maen nhw’n annog y syniad o greu rhwydweithiau, neu yn ein cyd-destun ni, pwyllgorau, mewn rhannau o’r gwladwriaethau sy’n aelodau o Unesco,” meddai.

‘Atgyfnerthu’r elfen ddiwylliannol ieithyddol’

Byddai sefydlu cangen yng Nghymru yn helpu i gefnogi polisïau a fyddai’n atgyfnerthu’r elfen ddiwylliannol ieithyddol pan fo dynodiadau newydd, “yn hytrach na gadael iddo lithro i ffwrdd jyst i fod yn beth twristaidd arall”, meddai Allan Wynne Jones wedyn.

“Gwaetha’r modd, er amcanion uchelgeisiol, moesol, rhyngwladol Unesco, mae llawer iawn o’r dynodiadau yma, fel sydd gyda ni yng Nghymru – y cestyll bondigrybwyll a Phontcysyllte – yr unig fantais mae pobol yn ei gweld ynddyn nhw ydi mwy o dwristiaeth.

“Ac i mi, mae hynny’n drist oherwydd mae’n colli golwg ar amcanion y corff yma.”

Bu Allan Wynne Jones mewn cysylltiad eithaf agos â’r ganolfan yng Ngwlad y Basg ar un adeg, meddai, gan esbonio eu bod nhw’n gweithredu fel cyfrwng i ddosbarthu gwybodaeth am Unesco drwy Wlad y Basg.

Maen nhw hefyd yn casglu tystiolaeth am y pethau da sy’n digwydd yno, ac yn eu bwydo’n ôl i Unesco, ac yn sicrhau bod mwy o geisiadau gan yr ardal am gydnabyddiaeth gan Unesco.

“Enghraifft dda yng Nghymru y gallen ni fynd ar ei ôl, mae e wedi cael ei grybwyll flynyddoedd yn ôl ond does neb wedi gwneud dim byd ynglŷn ag e, yw bod gan Unesco adran o weithgarwch a pholisïau ym maes diwylliant y maen nhw’n ei galw yn Dreftadaeth Annirnadol (intangible heritage),” meddai.

“Y syniad yna yw bod o fewn diwylliannau rai nodweddion unigryw sydd ddim yn cael eu rhannu gan ardaloedd eraill yn y byd ond sy’n bwysig i bobol wybod amdanyn nhw – crefftau a thechnegau ac yn y blaen.

“Un syniad sydd gyda ni yng Nghymru dydyn ni ddim yn ei werthfawrogi’n gyfangwbl yw’r syniad o Eisteddfod.

“Mae rhai gwledydd eraill yn y byd wedi mabwysiadu’r syniad o Eisteddfod, ond byddai hwn yn enghraifft o ffordd y gallai nodwedd yng Nghymru, neu agwedd o’n diwylliant ni, gael cydnabyddiaeth ryngwladol a’i wneud e’n fwy ymwybodol i bobol ar draws y byd.”

‘Gofyn pam?’

Daeth Pwyllgor Unesco Cymru i ben yn ddeng mlynedd yn ôl, ac mae Allan Wynne Jones wedi bod yn cysylltu ag Unesco a gwahanol gyrff i geisio adfywio’r rhwydwaith.

“Yn ôl tua deuddeg, pymtheg mlynedd yn ôl pan roedd pwyllgor bywiog yng Nghymru, roedden nhw’n cyhoeddi adroddiad blynyddol oedd yn amlwg yn crynhoi beth wmbreth o waith yn hyrwyddo achosion rhyngwladol yng Nghymru,” meddai.

“Mae’n biti bod un ai Llywodraeth Cymru, dydyn ni ddim yn gwybod, neu Unesco yn Llundain wedi dileu pwyllgor Cymru.

“Y tro diwetha’ i Unesco gynnal cyfarfod cynrychioladol yng Nghymru, ac mae hynny ryw ddeng mlynedd yn ôl yn Aberystwyth, mi oedd pawb yno oedd ag unrhyw fath o het swyddogol Unesco yn cydweld y bydden nhw’n manteisio ar y brwdfrydedd oedd yn y gynhadledd yna i aildanio brwdfrydedd ymhlith pobol lawr gwlad yng Nghymru drwy sefydlu pwyllgor neu rwydwaith. A dydi o ddim wedi digwydd.

“Eisiau gofyn pam ydw i.”

Mae Allan Wynne Jones am dynnu sylw ar y diffyg “difrifol” sydd yn y ddarpariaeth genedlaethol yng Nghymru, ac mae wedi bod mewn cysylltiad ag Unesco yn Llundain, gweision sifil a gwleidyddion ynghylch adfywio Pwyllgor Unesco i Gymru.

“Does neb wedi cael eu tanio gan yr angen i wneud rhywbeth am y sefyllfa, a dyna sydd yn tristháu fi ar un agwedd ond eto yn fy nghalonogi bod yna bosibilrwydd i ni allu creu ryw fath o endid newydd yng Nghymru fyddai’n cymell pobol i edrych tu allan i Gymru ac i geisio creu byd gwell drwy hyrwyddo heddwch.

“Os oes angen hynny wedi bod ar unrhyw adeg ers y Rhyfel Mawr diwetha, mae ei angen e ar hyn o bryd.”

“Rioed wedi gweithio’n chwaral, ond genna’i lechan yn y gwaed”

Jason Morgan

“Roeddwn i’n wên o glust i glust o glywed i UNESCO roi Statws Treftadaeth y Byd i ardaloedd chwarelyddol y Gogledd”

Gweithgareddau Unesco o arwyddocad arbennig i Gymru

Allan Wynne Jones

“Dylai Llywodraeth Cyrmu greu peirianwaith dryloyw i ddangos sut mae’n cysylltu gydag Unesco o safbwynt ei chyfrifoldebau datganoledig”