Mae Plaid Cymru’n galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynlluniau “hirddisgwyliedig” i ddiwygio gofal cymdeithasol.

Mae Llywodraeth Cymru’n dweud bod eu cynllun nhw’n “barod i fynd”, ond eu bod nhw’n aros i Boris Johnson weithredu’n gyntaf.

Yn ôl Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd a gofal cymdeithasol Plaid Cymru, mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i “ddibynnu” ar San Steffan yn golygu bod Cymru “ar ei hôl hi” o ran diwygio gofal cymdeithasol.

Mae disgwyl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi eu cynlluniau ar gyfer diwygio gofal cymdeithasol yn Lloegr yr wythnos hon.

Eisoes, mae Plaid Cymru wedi cynnig diwygiadau a fyddai’n edrych ar y ffordd mae gofal cymdeithasol yn cael ei ariannu, er mwyn cynnig gwasanaeth iechyd a gofal a fyddai’n rhoi’r claf wrth wraidd y gwasanaeth.

Yn ogystal, maen nhw am weld gofalwyr yn cael hawliau a thâl tebycach i rai gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

“Mae angen mawr am ddiwygio gofal cymdeithasol yn Nghymru ers tro,” meddai Rhun ap Iorwerth.

“Mae’r ffordd y maen cael ei ariannu’n mynd am yn ôl, cleifion yn aros yn yr ysbyty am hirach nag y mae’n rhaid iddyn nhw tra bod gwasanaethau’n ffraeo a ydi eu hanghenion yn rhai ‘cymdeithasol’ neu’n rhai ‘iechyd’, ac mae angen gwneud hawliau a thâl gofalwyr yn debycach i rai gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”

Diwygiadau yn Lloegr

Yn y cyfamser, mae Boris Johnson wedi ymrwymo o hyd i “ddiwygio’r system gofal cymdeithasol yn gynaliadwy”, er bod mwy o Geidwadwyr yn gwrthwynebu ei gynlluniau honedig.

Mae Ceidwadwyr y meinciau cefn wedi ymateb yn flin i adroddiadau bod gweinidogion yn bwriadu codi Yswiriant Gwladol i ariannu’r system yn Lloegr – gan fynd yn erbyn eu haddewidion yn ystod yr etholiad cyffredinol diwethaf.

Mae rhai yn dweud y byddai’r newidiadau er budd perchnogion tai hŷn yn ardaloedd cefnog de ddwyrain Lloegr, ar draul teuluoedd gweithiol, ac y byddai hynny’n tanseilio rhaglen Codi’r Gwastad San Steffan.

“Rydyn ni wedi ymroi i gyflwyno diwygiad hirdymor cynaliadwy ar gyfer y sector a dyna fyddwn ni’n ei wneud, ond tu hwnt i hynny, dw i ddim am fynd mewn i fwy o ddamcaniaethu,” meddai llefarydd swyddogol Boris Johnson.

“Mae’r heriau sy’n wynebu’r sector gofal cymdeithasol yno ers tro, a dro ar ôl tro dydyn nhw heb gael eu cydnabod, ac mae hynny’n rhywbeth y mae’r Prif Weinidog wedi ymrwymo i’w wneud.”

Yn gynharach, roedd James Heappey, gweinidog y Lluoedd Arfog, wedi dweud wrth LBC, fod hyn am “fod yn anodd, achos ni fydd pawb yn cydweld, ond mae’n rhaid i ni drio, achos os nad ydych chi’n gallu gwneud hynny efo mwyafrif o 80 [yn San Steffan], pryd allwch chi?”

‘Ddim yn deg’

Fodd bynnag, mae’r cyn-weinidog Jake Berry yn rhybuddio yn erbyn polisi a fyddai wedi’i anelu, mae’n ymddangos, at bleidleiswyr hŷn yn etholaethau cefnog y de.

“Dyw e ddim wir yn ymddangos yn rhesymol i bobol yn fy etholaeth i yn Nwyrain Swydd Gaerhirfryn, sydd fwy na thebyg ar gyflogau is na nifer o rannau eraill o’r wlad, dalu treth i gefnogi pobol i allu cadw eu tai mewn rhannau eraill o’r wlad lle y gallai prisiau tai fod dipyn uwch,” meddai.

Gan nad yw Yswiriant Gwladol yn cael ei dalu gan bobol sydd wedi ymddeol, dywedodd Jake Berry wrth BBC Radio 4 fod y mater yn codi cwestiynau am degwch trawsgenedlaethol hefyd.

“Dyw e ddim yn ymddangos yn deg i fi, yn enwedig yn dilyn pandemig lle mae cymaint o bobol wedi gwneud aberth i gadw pobol yn saff, wedi taro’r ieuengaf waethaf, taro’r rheiny sydd mewn gwaith waethaf, ein bod ni wedyn yn gofyn i’r rheiny mewn gwaith dalu am ofal pobol.”

Yn y cyfamser, mae Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, wedi awgrymu bod y blaid yn gwrthwynebu’r cynigion hefyd.

“Rydyn ni angen mwy o fuddsoddiad yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gofal cymdeithasol ond mae Yswiriant Gwladol, y ffordd hon o wneud pethau, yn taro pobol ar gyflogau isel, yn taro pobol ifanc, ac yn taro busnesau,” meddai wrth y Mirror.