Mae meddyg a laddodd fyfyriwr mewn gwrthdrawiad wedi osgoi cael ei charcharu.
Roedd Dr Sally Robeson, 33, yn gyrru i’r gwaith yn Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni ar Ionawr 2 y llynedd pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Clywodd Llys y Goron Casnewydd fod Sally Robeson, meddyg yn yr adran damweiniau ac achosion brys, wedi colli rheolaeth ar ei char ac wedi taro cerbyd oedd yn teithio i’r cyfeiriad arall.
Roedd Rebecca Davies, 19 oed, yn deithiwr sedd gefn yn y cerbyd hwnnw, tra bod ei mam Carol yn gyrru, a’i thad William yn eistedd yn sedd y teithiwr blaen.
Bu farw Rebecca Davies, tra bod ei mam a’i thad wedi dioddef anafiadau difrifol.
Dedfrydodd y Barnwr Jeremy Jenkins Robeson, a gafwyd yn euog gan reithgor o achosi marwolaeth drwy yrru’n ddiofal, i orchymyn cymunedol 18 mis a dywedodd wrthi am gwblhau gweithgaredd adsefydlu (rehabilitation) 10 diwrnod.
“Mae hwn yn achos trist iawn ac rwyf am ei gwneud yn gwbl glir na all unrhyw ddedfryd y gallaf ei rhoi ddechrau mynd i’r afael â’r boen a’r ymdeimlad o golled a achoswyd i Mr a Mrs Davies,” meddai.
“Y sail yr wyf yn pasio’r ddedfryd yw eich bod wedi stopio canolbwyntio am eiliad wrth ddod o gwmpas y tro hwnnw.
“Wrth roi tystiolaeth, dywedoch eich bod wedi’ch syfrdanu gan oleuadau oedd yn dod i’ch cyfeiriad.
“Fe wnaethoch chi orlywio eich car a dod i lwybr y Suzuki.”
Dywedodd y barnwr nad oedd Sally Robeson yn goryrru adeg y ddamwain, nad oedd unrhyw beth o fewn ei char wedi tynnu ei sylw, nad oedd diod na chyffuriau wedi effeithio arni, ac nad oedd yn flinedig nac yn llwglyd.
Fe wnaeth y barnwr wahardd Sally Robeson rhag gyrru am ddwy flynedd a’i gorchymyn i dalu £2,000 tuag at gostau erlyn.
‘Y golau wedi mynd allan o’n bywydau’
Darllenodd Carol Davies ddatganiad personol dioddefwr i’r llys, gan ddisgrifio sut yr oedd ei merch “annwyl a phoblogaidd” yn dyheu am fod yn feddyg.
Roedd hi yn ei hail flwyddyn o astudio biocemeg ym Mhrifysgol Birmingham, meddai, ac wedi dychwelyd adref ar gyfer gwyliau’r Nadolig pan fu farw.
“Ni fydd dim yn llenwi’r bwlch mawr a adawyd gan golled Becky,” meddai.
“Mae ein cadwyn deuluol wedi’i thorri.
“Mae’r golau wedi mynd allan o’n bywydau.
“Mae ein hapusrwydd yn y dyfodol wedi cael ei ddinistrio.”
Wrth gynrychioli Robeson, dywedodd Heath Edwards fod ei gleient wedi cael ei “dinistrio” gan y niwed oedd wedi ei achosi i’r teulu.
“Byddai’n gwneud unrhyw beth a allai i droi amser yn ôl,” meddai wrth y llys.
Ychwanegodd nad oedd Sally Robeson wedi gallu dychwelyd i’r gwaith ers y ddamwain oherwydd yr anafiadau a ddioddefodd.